Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 1

 

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 14 Wythnos 

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Tamsin Davies

Dull Dysgu: Ar-lein

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: YD10010 

Ffi: £140.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Gellir archebu lle ar y cwrs yma.

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim. Cyn y gellir archebu eich lle ar y cwrs, rhaid i chi gwblhau cais Hepgor Ffioedd ac anfon prawf o'ch cyfeiriad yng Nghymru atom.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

 

Disgrifiad

Bydd y modiwl yn cydnabod gweithgareddau allgyrsiol sydd eisoes yn bodoli ynghyd â chynnig sesiynau. Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd. Mae pum categori o sgil:

  • Hunan-ymwybyddiaeth
  • Cyfathrebu
  • Meddwl yn feirniadol
  • Llythrennedd ddigidol a Gwybodaeth
  • Proffesiynoldeb

Dyddiadau

19 Hydref 2026 – 29 Ionawr 2027

Canlyniadau Dysgu 

1. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.

2. Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.

3. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a meddwl yn feirniadol.

4. Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle

Asesiadau 

Dyddlyfr hunan-fyfyrio - (100%)

 

Cynnwys

    1 - Hunan-ymwybyddiaeth

    • Adnabod eich sgiliau i’r gweithle
    • Cwis Paru Gyrfa Gyrfa Cymru

    2 - Cyfathrebu Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

    • Sesiynau SgiliauAber
    • Ysgrifennu ffurfiol
    • Trawsieithu
    • Sgiliau darllen
    • Cyflwyniadau llafar NEU
    • Cwblhau sesiynau’r Dystysgrif Sgiliau Iath

    3 - Meddwl yn feirniadol Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

    • Adnoddau a chwis llythrennedd Newyddion a'r Cyfryngau (1 awr)
    • Sesiynau SgiliauAber -Beth yw meddwl yn feirniadol? - Ysgrifennu traethawd

    4 - Llythrennedd ddigidol a gwybodaeth Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

    • Sesiynau SgiliauAber- Cymraeg ar y cyfrifiadur - Defnyddio Box of Broadcasts- Cyflwyniad i Endnote - Cadw i fyny yn eich pwnc
    • Porth Adnoddau:- Cwrs ar ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol ‘Sbia ar hwn’ (1 awr)

    5 - Proffesiynoldeb Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

    • Ymddygiad proffesiynol
    • Sesiynau SgiliauAber- Golygu a phrawf-ddarllen (1 awr) NEU
    • Lleoliad gwaith neu waith gwirfoddoli