Teithio Mewn Car
Mae'n hawdd cyrraedd Aberystwyth mewn car. Mae golygfeydd hardd i'w gweld o ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio.
O'r dwyrain mae'r A44 yn dringo trwy Fryniau Cambria ac i lawr at yr arfordir, ac o'r gogledd neu'r de mae'r A487 yn cynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion.
Arwyddion Cyfeiriadol
Pan fyddwch yn agosáu at Aberystwyth yn y car fe welwch arwyddion yn eich cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth; bydd y rhain yn eich tywys at Gampws Penglais.
Chwiliwch am yr arwyddion sgwâr melyn llachar sydd â llun o gap academaidd arnynt.
Cyngor i Bobl Sy'n Defnyddio Llywiwr Lloeren
Os ydych yn bwriadu defnyddio Llywiwr Lloeren i deithio i Aberystwyth, bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi:
LLEOLIAD | COD POST | CYFEIRNOD GRID |
---|---|---|
Campws Penglais | SY23 3BY | 52.417739,-4.065292 |
Campws Llanbadarn | SY23 3AS | 52.411055,-4.054362 |
Campws Gogerddan | SY23 3EB | 52.432832,-4.018642 |
Yr Hen Coleg | SY23 2BH | 52.414664,-4.088252 |
Os ydych yn teithio i Gampws Penglais (prif gampws y Brifysgol) rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r arwyddion cyfeiriadol pan fyddwch chi'n agosáu at Aberystwyth.
Os ydych yn teithio i leoliad arall ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn argymell eich bod yn osgoi defnyddio isffyrdd, hyd yn oed os yw eich Llywiwr Lloeren yn dweud wrthych am eu defnyddio.
Parcio i Ymwelwyr
Yn ystod digwyddiadau arbennig megis Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld neu’r Seremonïau Graddio, bydd arwyddion a/neu staff y brifysgol ar gael i gyfeirio ymwelwyr i’r mannau parcio.
Os ydych yn ymweld â’r brifysgol ar fusnes arall, ewch i Swyddfa’r Porthorion ar Gampws Penglais i ofyn am drwydded barcio i ymwelydd.
Os ydych yn ymweld â Champws Penglais i ddefnyddio cyfleusterau eraill, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau, defnyddiwch y maesydd parcio Talu ac Arddangos.