Graddedigion Mathemateg 2025

22 Gorffennaf 2025

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr Mathemateg wnaeth raddio'r wythnos ddiwethaf.


Roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i nifer o’n graddedigion am eu perfformiadau eithriadol mewn Mathemateg yn dilyn y seremoni.

Dyfarnwyd Gwobr Pennington ar gyfer Mathemateg Bur, er cof am yr Athro Barry Pennington, Pennaeth Mathemateg Bur 1961-1968, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Bur i Cordelia Bryant, Ellie Hyam a James Watkins.


Dyfarnwyd Gwobr O.L. Davies ar gyfer Ystadegaeth, er cof am yr Athro Owen Davies, Pennaeth Ystadegaeth 1968-1975, i Cordelia Bryant a James Anstey am eu perfformiad mewn Ystadegaeth.


Dyfarnwyd Gwobr T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967, i Stephan Gambart a Will Townsend am eu perfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol.

Cafodd Gwobr Clive Pollard ar gyfer Mathemateg, sy’n cymryd enw cyn-fyfyriwr wnaeth raddio mewn Mathemateg Bur yn 1972, ei dyfarnu i Ellie Smith, Alaw Jones ac Artur Andrijauskas am eu perfformiad cryf yn y flwyddyn olaf.

Dyfarnwyd Gwobr George Lee, am y tro cyntaf, er cof am gyn-fyfyriwr am berfformiad rhagorol ar y cwrs gradd MMath, i James Watkins.

Derbyniodd Stephan Gambart ac Ellie Hyam wobrau gan y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau (Institute of Mathematics and its Applications, IMA) am y perfformiad cyflawn gorau.

Caiff gwobrau eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd ddim wedi gorffen eu cyrsiau hefyd; byddwn yn llongyfarch y myfyrwyr hynny pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.