Cyflogadwyedd

Bydd gradd mewn Mathemateg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd...
Posib lle mae galw mawr am sgiliau rhifiadol, rhesymegol a dadansoddol arbenigol.
Rhagolygon Gyrfa
Mae'r rhain yn cynnwys gweithio i gwmnïau fel Rolls Royce a sefydliadau megis y Swyddfa Dywydd, ac mae llwybrau posib ar gyfer gyrfa mewn cyfrifeg a bancio, rheoli ariannol, dadansoddi data, technoleg gwybodaeth, ymchwil a darlithio hefyd yn agored i chi. Yn yr arolwg diweddaraf, roedd 93% o israddedigion DU/UE o'r Adran Fathemateg a raddiodd yn 2017 mewn cyflogaeth neu addysg bellach chwe mis ar ôl graddio (HESA, 2017)
Mae mwy o broffiliau graddedigion cyfrwng Cymraeg ar gael yma a rhai Saesneg yma.
Sgiliau trosglwyddadwy
Tra’n astudio ar gyfer gradd mewn Mathemateg, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Sgiliau dadansoddi ymchwil a data
- Sgiliau mathemategol a chyfrifiannol da
- Sgiliau datrys problemau effeithiol a meddwl yn greadigol
- Sylfaen gadarn mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
- Y gallu i weithio'n annibynnol
- Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
- Ygallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd glir a strwythuredig , yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Hunan gymhelliant a hunanddibyniaeth
- Gweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, derbyn a dadansoddi syniadau gwahanol a cyrraedd cytundeb am y syniad gorau
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)
Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle gwych i chi gymryd blwyddyn allan rhwng eich ail a'r trydedd blwyddyn o astudio er mwyn gweithio mewn sefydliad yn y DU neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerth chweil, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall eich helpu chi i sefyll allan oddi wrth y dorf mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau a darganfod lleoliad gwaith addas.