Estyn allan

Darlithydd yn dangos siâp a phriodweddau swigen i fyfyrwyr

Mae staff a myfyrwyr o’r Adran Fathemateg yn cydweithio er mwyn ymgysylltu â chymunedau y tu allan i’r Brifysgol.

Mae aelodau o’r adran yn ymweld ag ysgolion lleol yn gyson, cefnogir yn aml gan fyfyrwyr MathSoc, gan geisio adlonni ac addysgu mewn amrywiaeth o bynciau mathemategol.

Cyswllt Ysgolion

Rydym yn cynnig y cyflwyniadau a gweithgareddau canlynol er mwyn hybu diddordeb disgyblion ac athrawon; gellir eu teilwra i grwpiau oedran gwahanol, a'u gwneud yn addas ar gyfer y maes llafur priodol.

  • Pam astudio Mathemateg?
  • Taith Corryn i’r Gwe: cyflwyniad Mathemateg Bur ar symio cyfresi anfeidraidd o rifau
  • Mathemateg Swigod Sebon: cymhwysiad mathemateg er mwyn datrys problemau geometreg (gall gynnwys calcwlws). Mae'r gweithgaredd hwn bellach ar gael ar lein.
  • Teilsio anghyfnodol: Ydyw'n bosib teilsio'r plân anfeidraidd fel nad yw'r patrwm yn ailadrodd? Gwneir defnydd o syniadau sy'n cynnwys cymesuredd a dychweliad.
  • Mathemateg mewn Chwaraeon: pam fod geometreg a mecaneg yn bwysig mewn nifer o gemau chwaraeon? Mae gweithgaredd ar sut gall algebra a chalcwlws fod o ddefnydd er mwyn optimeiddio strategaeth ras geir ar gael ar lein.
  • Ffractalau: sut ddylem gyfrifo dimensiwn siâp? Gwneir cymwysiadau o ffracsiynau a/neu logarithmau i geometreg.

Rydym hefyd yn cynnig deunydd wedi'i recordio o ddigwyddiadau o'r gorffennol:

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion, neu er mwyn gofyn am gyflwyniadau posib eraill.

Hwb Gwyddoniaeth i’r Gymuned

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael i athrawon, myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid ar-lein yn yr Hwb Gwyddoniaeth i’r Gymuned. Mae'r deunyddiau hyn, sydd wedi'u hanelu at amrywiaeth o grwpiau oedran, yn cynnwys arbrofion cartref, taflenni gwaith, prosiectau, heriau, pynciau ymchwil, gweminarau, posau, deunyddiau gwersi a mwy.