Pacio odyn gydag AI er mwyn lleihau allyriadau

O chwith i dde: Jafar Daji (Parkinson-Spencer Refractories), Dr Odin Moron-Garcia, Dr Adil Mughal a Dr Chris Finlayson (Prifysgol Aberystwyth) o flaen y odyn
04 Awst 2025
Mae arbenigwyr mathemateg yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu’r diwydiant cerameg cywasgu mwy o wrthrychau mewn odyn er mwyn lleihau ei ôl troed carbon.
Bydd partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a chwmni Parkinson-Spencer Refractories (PSR) yng Ngorllewin Swydd Efrog yn arwain at ddatblygu offer sy’n defnyddio dysgu peirianyddol a thechnolegau deallusrwydd artiffisial i sicrhau bod odyn yn cael ei lwytho yn y modd mwyaf effeithlon posibl.
Busnes teuluol a sefydlwyd fwy na 200 mlynedd yn ôl yw PSR ac mae’n cynhyrchu cynhyrchion ceramig o wahanol siapiau a meintiau ar gyfer y diwydiant gwydr, sydd angen eu tanio mewn odynau mawr sy’n defnyddio cryn dipyn o ynni mawr.
Ar hyn o bryd, ar gyfartaledd, defnyddir cyn lleied â 9% o ofod odyn yn ffatri PSR yn Halifax oherwydd cynnyrch afreolaidd a danir ynddo a thechnegau llwytho cymhleth. Mae hyn yn cyfyngu ar gapasiti gweithgynhyrchu’r cwmni gan arwain at gostau ynni uchel ac allyriadau carbon fesul tunnell y cynnyrch a gynhyrchir.
Byddai unrhyw welliant yn y modd y caiff odynau eu pacio ar gyfer sesiwn danio unigol yn cynyddu capasiti cynhyrchu ac effeithlonrwydd ynni, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol.
Er mwyn helpu i ddod o hyd i ateb, mae PSR wedi gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar gais llwyddiannus am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) wedi’i ariannu gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru.
Mae Cydymaith KTP gyda doethuriaeth ac arbenigedd mewn datrys problemau cyfrifiadurol bellach wedi'i benodi. Bydd Dr Odin Moron-Garcia yn dechrau yn ei rôl ym mis Mai 2025, gan weithio’n bennaf yn ffatri PSR yn Halifax yn ogystal â chydweithio â’r tîm ymchwil yn Aberystwyth.
Dr Adil Mughal o Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth sy’n arwain y tîm ymchwil ac fe ddywedodd:
“Mae’r prosiect hwn yn chwarae rhan ganolog o ran cyfnewid gwybodaeth arbenigol a phontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymhwysiad diwydiannol.
“Bydd creu algorithmau arloesol, wedi’u teilwra i optimeiddio’r pacio gwrthrychau siâp cymhleth yn effeithlon yn arwain at ostyngiad sylweddol yn ôl troed carbon y diwydiant cerameg, gan arwain at fanteision amgylcheddol hanfodol. Bydd y datblygiadau hyn nid yn unig yn welliant technegol i’r broses weithgynhyrchu ond hefyd yn gam hanfodol tuag at gynaliadwyedd yn y diwydiant.”
O chwith i dde: Helena O’Sullivan, Dr Adil Mughal a Dr Odin Moron-Garcia o Brifysgol Aberystwyth gyda Simon Parkinson a Jafar Daji o Parkinson-Spencer Refractories, a Dr Chris Finlayson o Brifysgol Aberystwyth
Dywedodd Simon Parkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr PSR:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect cyffrous hwn a allai fod yn drawsnewidiol. Gobeithiwn y bydd yn arwain at gynhyrchuein nwydda mewn modd mwy ynni-effeithlon, gan gefnogi ein hymgyrch tuag at ddod yn fusnes mwy cynaliadwy.”
Dywedodd Helena O’Sullivan, Swyddog Datblygu Busnes yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth:
“Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn ffordd wych o’n cysylltu ni fel prifysgol â diwydiant. Maen nhw’n galluogi busnesau i gael mynediad at yr arbenigedd academaidd blaengar nad oes ganddyn nhw’n fewnol, gan eu helpu i ddatrys heriau arloesi, datblygu cynhyrchion neu syniadau newydd a dod yn fwy cystadleuol. Ar yr un pryd, mae academyddion yn cael y cyfle i gymhwyso eu gwybodaeth i broblemau busnes pwysig, ysgogi arloesedd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r economi.”
Gall cwmnïau sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am sut y gallai KTP fod o fudd i’w busnes gysylltu â Helena O’Sullivan yn heo12@aber.ac.uk