Rhaglen Gyfnewid Myfyrwyr a Staff â Prifysgol Dechnegol Eskişehir

Jack Arnold yn cyflwyno ei waith

Jack Arnold yn cyflwyno ei waith

Mae daeargrynfeydd trychinebus yn rhanbarth Kahramanmaraş o Türkiye yn 2023 wedi ail-fywiogi ymchwil mewn lledaeniad tonnau mewn solidau anffurfiadwy. Mae hyn wedi arwain at gydweithrediad ymchwil newydd rhwng mathemategwyr cymhwysol yn Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Dechnegol Eskişehir sydd newydd ei sefydlu yn Türkiye. Wedi'i ariannu gan Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Ryngwladol Medr, mae cyfres o ymweliadau cyfnewid ar gyfer staff a myfyrwyr yn digwydd, er mwyn hyfforddi ymchwilwyr gyrfa gynnar mewn technegau mathemategol sy'n berthnasol i ddiogelwch strwythurol, seismoleg a pheirianneg deunyddiau modern.

Croesawyd yr Athro Nihal Ege a'r Athro Barış Erbaş o Eskişehir i’r adran ym mis Chwefror, yn ogystal â thri o'u myfyrwyr PhD. Rhoddodd yr Athro Erbaş seminar ymchwil i'r adran, a threfnodd MathSoc ddigwyddiad i groesawu'r myfyrwyr, a roddodd gyflwyniadau ar eu gwaith ar ddadansoddiad mathemategol motiffau mewn rygiau Twrcaidd. Dilynodd hyn ymweliad gan yr Athro Gennady Mishuris ag Eskişehir ym mis Ionawr, a deithiodd gyda'i gydweithwyr Dr Daniel Peck a Mrs Nataliia Adukova. Yn fwyaf diweddar, gwnaeth un o'n myfyrwyr israddedig, Jack Arnold, ymweld ag Eskişehir. Rhoddodd seminar ar waith ei brosiect trydedd flwyddyn ar y grŵp modiwlar i gynulleidfa o staff a myfyrwyr, a chafodd gyfle i fwynhau'r bwyd lleol. Mae ymweliad pellach gan y tîm o Türkiye â Chymru wedi'i gynllunio ar gyfer y mis nesaf, fel rhan o Golociwm Mathemateg Cymru yn Neuadd Gregynog.