Graddio Mathemateg 2026

Gwobrau OL Davies / George Lee / Pennington

Gwobrau OL Davies / George Lee / Pennington

20 Gorffennaf 2026

Llongyfarchiadau gwresog i’r myfyrwyr Mathemateg a raddiodd yr wythnos diwethaf.

Yn dilyn y seremoni, roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i rai o’r graddedigion newydd am eu perfformiad eithriadol mewn Mathemateg.

Dyfarnwyd Gwobrau Pennington ar gyfer Mathemateg Bur, er cof am yr Athro Barry Pennington, Pennaeth Mathemateg Bur 1961-1968, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Bur i Harry Richards, Meilyr Lynch a Tom Wolstencroft.

Dyfarnwyd Gwobr O.L. Davies ar gyfer Ystadegaeth, er cof am yr Athro Owen Davies, Pennaeth Ystadegaeth 1968-1975, i Hannah Peacock am ei pherfformiad mewn Ystadegaeth.

Dyfarnwyd Gwobr George Lee, er cof am gyn-fyfyriwr Mathemateg, i Harry Richards am gael y cyfartaledd uchaf ar y cwrs MMath.

Dyfarnwyd Gwobr Clive Pollard ar gyfer Mathemateg, a enwyd ar ôl cyn-fyfyriwr a raddiodd mewn Mathemateg Bur ym 1972, ar y cyd i Leah Morton a Will Phillips am eu cynnydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs.

Mae Harry Richards a Meilyr Lynch hefyd yn derbyn gwobrau gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA) am y perfformiad cyffredinol gorau. 

Mae gwobrau hefyd wedi cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd ddim yn eu blwyddyn olaf; byddwn yn llongyfarch y myfyrwyr hyn pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.