Croeso Welcome

Llongyfarchiadau a chroeso i deulu Prifysgol Aberystwyth!

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â'n cymuned brifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi cyn hir. Bydd y tudalennau hyn, yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y cyfnod cyn i chi gyrraedd, pan ydych yn cyrraedd a beth bydd yn cymryd lle yn ystod yr wythnosau cyntaf yma yn Aber…

Sgroliwch lawr lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgareddau rhyngwladol CroesoAber, i lawlyfr sy'n rhoi canllawiau i chi am yr wythnosau cyntaf fel myfyriwr rhyngwladol ac arweiniad a chyngor ar fisas.

Amserlen Croeso Ionawr 2026

Gallwch ddod o hyd i Amserlen Croesawu ac Ymgartrefu mis Ionawr yma sy'n eich galluogi i weld y gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi ei trefnu gan: Y Tîm Croeso Canolog, Eich Adran ac UndebAber.

Mae'r amserlen yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng dydd Mercher, 21 Medi a dydd Gwener, 23 Medi.

Am wybodaeth fanylach ynghylch y digwyddiadau a'r gweithgareddau amrywiol, cofiwch fynd i’ch Cynllunydd Ymgartrefu Personol.

Amserlen Croeso Ionawr 2026

Dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber

  • Wythnos Groeso Myfyrwyr Newydd: 21 Ionawr i 23 Ionawr 2026
  • Undeb Aber (Undeb Myfyrwyr) – Ffair Reffreshars: 27 a 28 Ionawr 2026

Dyddiadau'r Tymor

Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

Defnyddiwch eich Cynllunydd Croeso ac Ymgartrefu personol i'ch helpu i ddarganfod y digwyddiadau sy'n benodol i’r cyfnod ymgartrefu.

Bydd gweithgareddau croeso eich adran yn ogystal a digwyddiadau eraill yn ymddangos yn awtomatig yn seiliedig ar eich cynlluniau gradd.

Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol

Eich Canllaw Ryngwladol I’r Wythnosau Cyntaf yn Aberystwyth

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â’n cymuned prifysgol a rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod. Gobeithiwn y bydd y llawlyfr hwn yn gwneud hi’n haws i chi ymgartrefu i fywyd yn Aberystwyth.

Mae'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi fel myfyriwr rhyngwladol ar sut i ymgartrefu yn y brifysgol drwy ddarganfod ein cyfleusterau campws a manylu ymhellach ar eich astudiaethau. Byddwch hefyd yn dysgu mwy am ymgartrefu yn y DU a gwybodaeth am agor cyfrif banc yn y DU er enghraifft.

Mae mwy o wybodaeth am ymgartrefu yn ein tref hefyd, a rhai awgrymiadau o ran cyrraedd llefydd a siopa bwyd!

Eich Canllaw Ryngwladol I’r Wythnosau Cyntaf yn Aberystwyth

Academi Ddoethurol

Mae'r Academi Ddoethurol yn goruchwylio ac yn cefnogi datblygiad pellach myfyrwyr ôl-raddedig (myfyrwyr ymchwil yn ogystal â’r rhai a ddysgir trwy gwrs) trwy ddarparu adnoddau i ôl-raddedigion, y Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, y rhaglen ehangu gyrfaoedd, a’r rhaglen hyfforddi athrawon. 

Bydd yr Academi Ddoethurol yn cefnogi pob agwedd ar eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr ôl-raddedig. Mae gan yr Academi Ddoethurol gysylltiadau cryf â'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a rhaglen y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU).

Academi Ddoethurol

Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu

Mae'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn darparu cyngor mewnfudo arbenigol, yn unol â Rheolau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref. Gall hwn gynnwys cyngor ar sut i wneud cais am fisa myfyriwr 'o fewn' neu 'y tu allan' i’r DU, i  ddiogelu statws mewnfudo tra yma, a opsiynau fisa ôl-astudio i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn astudiaethau pellach neu weithio yn y DU.

Eich Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu

Cyfnewid yn Aber

Rydym wedi creu rhestr wirio wedi’i teilwra i chi yma os ydych chi ar rhaglen cyfnewid yn Aberystwyth. O gwblhau eich cytundeb dysgu i weithredu eich cyfrif myfyriwr a pharatoi ar gyfer eich amser yn Aber, darganfyddwch wybodaeth a fydd yn eich helpu gyda’r broses.

Cyfnewid yn Aber