Croeso Welcome

Llongyfarchiadau a chroeso i Deulu Prifysgol Aberystwyth.

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â chymuned ein prifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi’n fuan. Bydd y tudalennau hyn yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am y cyfnod cyn i chi gyrraedd, wedi i chi gyrraedd, a beth i’w ddisgwyl yn ystod eich wythnosau cyntaf yn Aber…

Amserlenni Canolog yr Wythnos Groeso 2026

Fe welwch amserlenni canolog yr Wythnos Groesawu yma, wedi'u teilwra i'r adeg y byddwch yn cyrraedd - p'un a ydych chi'n fyfyriwr Nyrsio sy’n cyrraedd ddechrau mis Medi, yn fyfyriwr rhyngwladol, neu'n ymuno yn ystod y prif gyfnod derbyn rhwng dydd Iau 17 Medi a dydd Sadwrn 26 Medi.

I gael gwybodaeth fanylach am ddigwyddiadau a gweithgareddau, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol, lle gallwch weld y rhain ochr yn ochr â sesiynau a drefnir gan eich Adran Academaidd.

Beth sydd ymlaen?

Dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber

  • Wythnos Groeso Canolfan Addysg Gofal Iechyd: 7 Medi i 11 Medi 2026
  • Wythnos Groeso Gwyddoniaeth Filfeddygol: 14 Medi i 18 Medi 2026
  • Penwythnos Cyrraedd Myfyrwyr Newydd: 18 Medi i 20 Medi 2026
  • Wythnos CroesoAber: 21 Medi i 25 Medi 2026

Dyddiadau'r Tymor

CynAber – Cyn Cyrraedd

Wrth baratoi ar gyfer cyrraedd Prifysgol Aberystwyth, edrychwch ar y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau drwy ein rhestr wirio wedi'i theilwra, ynghyd â rhai fideos bach gan ein myfyrwyr presennol. Fe welwch hefyd wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi i ymuno â'ch cymuned newydd.

Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith i Aber mor llyfn â phosibl.

CynAber – Cyn Cyrraedd

CaruAber – Dod i adnabod y Brifysgol

Dyma’ch lle i ddarganfod, dysgu a thyfu.

Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym yma i’ch cefnogi yn ystod eich cyfnod pontio, a’ch helpu i ddod i adnabod Aberystwyth yn well.  Mae ein themâu CaruAber yn canolbwyntio ar saith prif faes a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.

CaruAber – Dod i adnabod y Brifysgol

Eich Bywyd yn Byw ac yn Astudio Drwy’r Gymraeg

Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol Aberystwyth), Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio.

Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol a ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.

Eich Bywyd yn Byw ac yn Astudio Drwy’r Gymraeg