Y Croeso Mawr a’r Wythnos Ymgartrefu

Nod gweithgareddau cynefino’r Brifysgol ydy eich cyflwyno i'r holl wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y Brifysgol, yn ogystal â roi gwybodaeth hanfodol am gofrestru. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a rhai o'r staff y Brifysgol sydd â chyfrifoldeb am astudiaethau ôl-raddedig.

Yn ogystal â chynnig croeso cynnes i chi, rydym yn gobeithio y bydd cynefino yn ateb llawer o'r cwestiynau sydd gennych am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl, a'r hyn a ddisgwylir oddi wrthych, fel myfyriwr ôl-raddedig yma.