'Cyfryngau Iaith Leiafrifol: Ymchwilio Tirwedd Gyfryngol Gwlad y Basg'

Adeilad Parry-Williams

Adeilad Parry-Williams

11 Rhagfyr 2006

Dydd Llun 11 Rhagfyr, 2006
Seminar Ymchwil Canolfan Mercator
‘Cyfryngau Iaith Leiafrifol: Ymchwilio Tirwedd Gyfryngol Gwlad y Basg'
Yr Athro Edorta Arana, Euskal Herriko Unibertsitatea, Adran y Gwyddorau Cyfathrebu, Prifysgol Gwlad y Basg.
Dydd Mercher, 13eg o Ragfyr am 5.15yp, Ystafell y Staff, Adeilad Parry-Williams, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Bydd y ddarlith hon gan yr Athro Edorta Arana sydd â diddordeb hirsefydlog yng nghyfryngau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop ac sydd wedi cyhoeddi llawer o erthyglau yn y maes hwn, yn rhoi arolwg ar gyfryngau yn yr iaith Fasgeg yn ogystal â rhai sy'n gwasanaethu siaradwyr Basgeg mewn ieithoedd eraill o fewn Gwlad y Basg.  Mae sefyllfa'r iaith Fasgeg yn gyffredinol yn un a all fod o ddiddordeb arbennig i’r rhai sydd ynglŷn â materion yn ymwneud â’r Gymraeg gan fod llawer yn gyffredin rhwng y ddwy iaith o ran demograffeg, cwmpas daearyddol, agweddau cymdeithasol a’r potensial ar gyfer adfer iaith.  Eto, mae gwahaniaethau pwysig rhyngddynt hefyd, er enghraifft yn y ffaith bod y Fasgeg yn cael ei siarad mewn dwy wladwriaeth ar wahân ac mewn tair rhanbarth weinyddol wahanol.  Mae croeso i holl staff a myfyrwyr PCA ddod i glywed y ddarlith hon yr ydym yn ffyddiog y bydd yn un addysgiadol a ddiddorol dros ben.