Dirprwy Gonswl Llysgenhadaeth yr U.D. i siarad yn Aberystwyth

Campws Penglais

Campws Penglais

05 Mehefin 2006

Mae Mr. James Sindle, Dirprwy-Gonswl Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau wedi derbyn gwahoddiad i anerch cyfarfod cyhoeddus o Gymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn adeilad newydd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth ddydd Sadwrn 10 Mehefin rhwng 11.15 y bore a 1 y prynhawn.

Pwnc y cyfarfod fydd ‘US Foreign Policy and its Relations with the UN'. Byddant yn archwilio'r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a’r Cenhedloedd Unedig, ac yn fwy penodol, ei rhan yn agenda ddiwygio bresennol y Cenhedloedd Unedig. Agorir y cyfarfod gan yr Athro Colin McInnes, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, a’r cadeirydd fydd Mr Stephen Thomas, Cyfarwyddwr y Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwladol. Wedi i Mr Sindle siarad bydd Mr Frank Hooley, Llywydd Cymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru a’r Athro Nicholas J. Wheeler o’r Adran yn ymateb ac yna ceir sesiwn holi ac ateb. Mae disgwyl i’r dadlau fod yn ddiddorol a phrofoclyd.

Ar hyn o bryd mae Mr. James Sindle yn gwasanaethu fel Swyddog Gwleidyddol gyda Gweinyddiaeth Dramor yr U.D. ac wedi ei leoli yn Llysgenhadaeth yr U.D. yn Llundain. Bu yn Llysgenhadaeth yr U.D. yn Algiers, Algeria, a chyn ymuno â’r Weinyddiaeth Dramor roedd yn  swyddog Lluoedd Arbenning ym myddin yr U.D. Mae ganddo radd B.A. mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol a Astudiaethau’r Dwyrain Agos o Brifysgol Arizona a M.Sc. mewn Gwasanaeth Tramor o Brifysgol Georgetown.

Darperir Te a Coffi am 11.00 yb a cinio bwffe am 1.00 yp pan fydd cyfle i barhau â’r trafod yn anffurfiol. Mae bwyd a diod wedi eu cynnwys yn y pris mynediad o £5 (£3 gostyngiadau).

Gymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru
Mae Cymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru yn ymgyrchu, lobio a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â diarfogi, osgoi gwrthdaro, datblygu cynaladwy a hawliau dynnol. Ei nod yw hyrwyddo trafodaeth ddeallus ar faterion rhyngwladol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig ei hunan.

Cenhadaeth Gymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru yw gweithio er mwyn sicrhau cefnogaeth llyworaeth a’r cyhoedd i ddelfrydau’r Cenhedloedd Unedig a’i asiantaethau drwy ymgyrchu, trefnu digwyddiadau a chefnogi canghennau lleol y Gymdeithas.