Gwobrau i fyfyrwyr Blwyddyn Mewn Cyflogaeth

Rhes gefn dd - ch, Emma Harrison, Acting Director of the Careers Service, Sarah Neale, Kirsten Ashby, Gemma Westmore, Michael John Hopkins, Lizzie Cox

Rhes gefn dd - ch, Emma Harrison, Acting Director of the Careers Service, Sarah Neale, Kirsten Ashby, Gemma Westmore, Michael John Hopkins, Lizzie Cox

09 Mehefin 2006

Dydd Gwener 9 Mehefin , 2006
Gwobrau i fyfyrwyr Blwyddyn Mewn Cyflogaeth
Cyflwynwyd ‘Gwobr Profiad Gwaith', sydd yn fawr ei bri, i griw o fyfyrwyr sydd wedi bod ar y cynllun Blwyddyn Mewn Cyflogaeth (BMC). Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Emma Harrison, Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaeth Gyrfaoedd, mewn seremoni yn ystod y gweithdy BMC blynyddol gynhaliwyd yn ddiweddar.

Cynllun o fewn Prifysgol Cymru, Aberyswyth yw Blwyddyn Mewn Cyflogaeth sydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael blwyddyn o brofiad gwaith yn y Deurnas Unedig neu dramor rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn. Mae’n gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau a magu profiad, ac yn eu gwneud yn llawer mwyn cyflogadwy.
 
Dyfarnwyd ‘Gwobr Profiad Gwaith’ i’r myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu blwyddyn ar leoliad a’u portffolio Profiad Gwaith er mwyn dangos tystiolaeth o’u datblygiad drwy gydol y flwyddyn.  Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o’r sgiliau cyflogadwy mae’r myfyrwyr wedi ennill tra ar leoliad. Yn ogystal derbyniodd pob myfyriwr 120 credit oddi wrth ‘Credit Plus’ sydd yn cael eu hychwanegu at eu trawsgrifiad prifysgol.

Dywedodd Emma Harrison: "Drwy ddewis y cynllun BMC mae’r myfyrwyr yma yn ennil profiad o weithio fel graddedigion ac o fewn strwythur.  Drwy weithio at y Wobr Profiad Gwaith mae pob un ohonynt wedi yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol ac wedi dangos eu bod yn elfen werthfawr yn y farchnad waith, dysgwr gydol oes."

Bu Elizabeth Cox yn gweithio i Rock Eagle, Canolfan Addysg Amgylcheddol yn America: "Roedd y penderfyniad i gymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn Mewn Cyflogaeth yn un gwych! Mae’r flwyddyn gyfan wedi profi i fi fod y gallu gen i i lwyddo mewn swydd nad yw’n berthnasol i bwnc fy ngradd. Yn osgytal dychwelais i’r Brifysgol wedi ymlacio a’m ysbrydoli i wneud y mwyaf o’m blwyddyn olaf, ac mae’r marciau wedi adlewyrchu hynny. Nawr ym mod yn ceisio am swyddi mae’r holl waith wnes i ar gyfer y Wobr Profiad Gwaith, ac yn arbennig ysgrifennu am y profiad, wedi bod yn ddefnyddiol iawn.”

Roedd myfyrwyr sydd ar fin dechrau ar eu cyfnod BMC yn bresennol hefyd a cawsont gyfle i siarad gyda myfyrwyr oedd newydd gwblhau eu cyfnod. Eleni bydd myfyrwyr yn mynd i gwmnïoedd a sefydliad sydd yn cynnwys y Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd, Lloyds TSB, Asiantiaeth yr Amgylchedd, Y Cynulliad Cenedlaethol a gwersyllau addysg yn yr Unol Daleithiau.