Achau'r Cymry ar lein

Rhan o goeden deuluol Llywelyn ap Iorwerth

Rhan o goeden deuluol Llywelyn ap Iorwerth

01 Tachwedd 2006

Dydd Mercher 1 Tachwedd 2006
Gosod achau Cymry'r Oesoedd Tywyll a'r Oesoedd Canol ar y we
I bobl sydd yn honni eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i rai o enwau mawr hanes Cymru, er enghraifft Hywel Dda, Llywelyn Fawr neu Owain Glyndŵr, bydd y dasg o brofi neu wrthbrofi’r cysylltiad dipyn yn haws wedi i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gwblhau ei phrosiect ymchwil diweddaraf.

Dyfarnwyd £300,000 i Adran Gymraeg y Brifysgol gan Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau er mwyn creu bas data electroniadd o achau’r Cymry rhwng y flwyddyn 300 a’r flwyddyn 1500.

Llafur cariad Dr P C Bartrum, gŵr heb unrhyw gysylltiad â Chymru a aned yn Hampstead, Llundain, a meteorolegydd wrth ei alwedigaeth hyd ei ymddeoliad yn 1955, yw sail y prosiect.

Er 1929 bu’n casglu gwybodaeth am achau’r Cymry o weithiau cynnar megis Brut y Tywysogion ac o lawysgrifau fel Harley 3859 (a gedwir yn y Llyfrgell Brydeinig) sy’n dyddio o tua 1100 a llawysgrifau eraill yn dyddio gan fwyaf o’r 15fed ganrif ymlaen, rhai a luniwyd gan yr arwyddfeirdd, sef y beirdd a oedd yn arbenigwyr ar hanes achyddol yr uchelwyr. 

Yn eu plith yr oedd Gutun Owain (1450-98), a gafodd ei gomisiynu yn 1491 i olrhain achau Owain Tudur o Benmynydd ym Môn, taid y brenin Harri VII.  Achyddwyr pwysig o’r 16eg ganrif oedd y beirdd Gruffudd Hiraethog (m.1564) a Lewys Dwnn (fl.1568-1616), a gydnabyddid fel herodron yng Nghymru gan y Coleg Arfau yn Llundain.
 
Yn 1974 cyhoeddodd Dr Bartrum gyfres o 8 gyfrol o dan y teitl Welsh Genealogies AD 330-1400 (Gwasg Prifysgol Cymru), ac yn 1983 cyhoeddodd 18 cyfrol fel dilyniant i’r gyfres gyntaf, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Ers eu cyhoeddi mae Dr Bartrum, a aned yn 1907, wedi bod yn ychwanegu atynt yn helaeth ac yn eu cywiro. Yn ddiweddar trosglwyddodd ei set bersonol ef ei hun o’r cyfrolau i ofal yr Adran lle mae tîm o ymchwilwyr wedi dechrau ar y gwaith o sganio’r deunydd yn electronaidd er mwyn ei gyhoeddi ar y we ac ar DVD.

Dywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams, Pennaeth Adran y Gymraeg yn PCA:
“Mae gwaith P C Bartrum yn gloddfa o wybodaeth ac yn ffynhonnell bwysig iawn i academyddion sydd yn astudio’r cyfnod, yn haneswyr ac yn haneswyr llên. Mae’n galluogi rhywun i adnabod llinach person, ei gyfnod a’i ardal, gwaith a fyddai fel arall yn cymryd misoedd o chwilio mewn llawysgrifau.”

“Wrth roi’r holl wybodaeth hon ar y we bydd llawer mwy o bobl yn cael y cyfle i’w defnyddio, ac o weld y diddordeb mawr sydd mewn olrhain achau y dyddiau hyn rwy’n siŵr y bydd cryn ddiddordeb yn y safle wedi iddi gael ei chwblhau.  Yn ddamcaniaethol, os yw rhywun yn medru olrhain ei achau yn ôl i’r 16eg ganrif, gallai gwaith Dr Bartrum ei gwneud yn bosibl iddynt fynd yn ôl lawer ymhellach,” ychwanegodd.

Bydd y prosiect yn golygu trosglwyddo’r miloedd ar filoedd o enwau a gofnodir yng ngweithiau Dr Bartrum i fas-data cyfrifiadurol a gaiff ei lunio’n arbennig i’r perwyl.  Erbyn i’r gwaith gael ei gwblhau ymhen tair blynedd bydd modd dod o hyd i lun o’r ach berthnasol drwy roi enw’r unigolyn mewn porwr, ac mae hyn yn golygu gallu adnabod enw pob unigolyn ar bob tudalen unigol.

Cyfarwyddwyr y prosiect ‘Fersiwn Electronaidd o Welsh Genealogies AD 300-1500 gan Peter Clement Bartrum’ yw Dr Bleddyn O. Huws, yr Athro Gruffydd Aled Williams a’r Athro Patrick Sims-Williams, a’r gweithwyr ar y prosiect yw Dr Gwen Angharad Gruffudd (Cymrawd Ôl-ddoethurol), Dr Iwan Tudor Price (Cynorthwy-ydd Clerigol) a Claire Melton (Ymgynghorydd Cyfrifiadurol).