2000 o fyfyrwyr ar gloc gwasanaeth bws y Brifysgol

Chwith i'r Dde: Ben Gray, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Dr John Harries PVC, Sarah Rogers myfyriwr 3edd flwyddyn Astudiaethau Ffilm a Theledu a John Bastow, Rheolwr Gweithredoedd, Arriva y Gogledd Orllewin a Cymru.

Chwith i'r Dde: Ben Gray, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Dr John Harries PVC, Sarah Rogers myfyriwr 3edd flwyddyn Astudiaethau Ffilm a Theledu a John Bastow, Rheolwr Gweithredoedd, Arriva y Gogledd Orllewin a Cymru.

23 Tachwedd 2006

Dydd Iau 23 Tachwedd 2006
2000 o fyfyrwyr ar gloc gwasanaeth bws y Brifysgol
Mae 2000 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer tocyn teithio'r Brifysgol, AHA (Ar Hyd Aber), ers dechrau'r flwyddyn academaidd ac mae nifer y teithiau bob wythnos wedi croesi’r 6000.

Derbyniodd Sarah Rogers, myfyrwraig Ffilm a Theledu blywyddyn olaf, ei thocyn sydd yn caniatau teithio am ddim ar wasanaethau Arriva o fewn Aberystwyth ac yna hanner pris ar wasanaethau Arriva i lefydd tu hwnt i Aber, oddi wrth Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor, yr wythnos hon.

Pris y tocyn, gafodd ei lansio gan y Brifysgol ac Arriva ym Medi 2005, yw £30. Mae’n rhan o strategaeth i leihau pwysau traffig a llygredd yn y dref a lleddfu’r broblem barcio ar strydoedd y dref yn ogystal ac ar gampws y Brifysgol.

Dyma’r ail flwyddyn i Sarah ddefnyddio’r tocyn.
“Roedd £30 yn ymddangos yn llawer i dalu am docyn teithio ar y dechrau ond talodd ar ei ganfed yn ystod y flwyddyn. Rwyf wedi gallu teithio adref i Abertawe am hanner y pris arferol o £12, ac i Gaerdydd ar nifer o achlysuron. Yma yn Aberystwyth mae’n fy ngalluogi i fynd i siopa unrhywle yn y dref heb orfod gofidio am sut i gyrraedd nôl gyda bagiau trwm ym mhob llaw.”

Dywedodd John Bastow, Rheolwr Trefniadau gyda Arriva Gogledd Orllewin a Chymru:
“Rydym wrth ein boddau gyda ymateb y myfyrwyr i’r cynllun AHA. Y nod nawr yw adeiladu ar llwyddiant y flwyddyn gyntaf a gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i wella ar y gwasanaeth.”

Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am Brosiectau Penodol ac Ystadau:
“Mae’r Brifysgol yn hapus iawn gyda llwyddiant y cynllun a’r cydweithio gafwyd gyda Undeb y Myfyrwyr ac Arriva.  Does dim gwell mesur o lwyddiant na’r nifer uchel o fyfyrwyr sydd defnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn lleihau nifer y teithiau car yn y dref, a’r gobaith hefyd yw ei fod yn perswadio myfyrwyr fod y bysiau yn ffordd llawer rhatach o deithio i ac o Aberystwyth yn hytrach na dod a’u ceir eu hunain.”

Dywedodd Ben Gray, Llywydd Undeb y Myfyrwyr:
“Mae’r nifer o fyfyrwyr sydd yn defnyddio’r gwasanaeth yn plesio’n fawr. Mae’r cynllun yn ein gallugoi i weithio tua’r nod o leihau ein allyrriadau carbon yn unol â’n polisi amgylcheddol, tra’n ein galluogi i ehangu’r ystod o wasanaethau rydym yn eu cynnig i’r myfyrwyr mewn cydweithrediad gyda’r Brifysgol.”

Mewn un wythnos 5 diwrnod (Hydref 16-20), cwblhaodd defnyddwyr y tocyn 5570 taith. Roedd y rhelyw yn deithiau lleol ond cafwyd hefyd dros 70 o deithiau pell. Ar gyfartaledd mae pob tocyn yn cael ei ddefnyddio 3 gwaith bob wythnos, cyfanswm o tua 6000 o deithiau.
Mae tocynnau AHA ar gael i fyfyrwyr a staff PCA o Undeb y Myfyrwyr. Ceir ffurflenni cais hefyd o Swyddfa’r Porthorion wrth fynedfa Campws Penglais.