Dadl bwysig ar arfau niwclear

Delweddau sydd yn cynrychioli ymbelydredd a'r Cenhedloedd Unedig

Delweddau sydd yn cynrychioli ymbelydredd a'r Cenhedloedd Unedig

29 Tachwedd 2006

Dydd Mercher 29 Tachwedd 2006
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trefnu dadl bwysig ar arfau niwclear
Mae Sefydliad Coffa David Davies (SCDD) sydd yn rhan o'r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, yn trefnu dadl o bwys ar arfau niwclear, ar y cyd gyda Chymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ddoe y bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn gynnar yn 2007 ar ddyfodol Trident, system arfau niwclear Prydain, bydd y gynhadledd hon yng Nghaerdydd yn cynnig y cyfle mawr cyntaf i gyfrannu at y ddadl bwysig gyhoeddus hon sy'n arwain at y bleidlais.

Pryd? Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2006, o 11.15 y bore tan 5.45 yr hwyr
Ble?   Yn y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3AP
Beth? Cynhadledd ar lefel uchel am atal amlhau a diarfogi niwclear, a swyddogaeth y Cenhedloedd Unedig.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys grwp nodedig o siaradwyr a dadl am:
            Ddyfodol Trident – system arfau niwclear Prydain
            Atal amlhau niwclear
            Bygythiad terfysgaeth niwclear
            Swyddogaeth y Cenhedloedd Unedig

Trefnir y gynhadledd gan Gymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru, UNA-UK a Sefydliad Coffa David Davies o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae gweithgareddau ymchwil y Sefydliad yn cael eu rhannu rhwng gwleidyddiaeth, y gyfraith, a moesau materion y byd.  Dan arweiniad eu Cyfarwyddwr presennol, yr Athro Nicholas J. Wheeler, mae SCDD yn ymwneud â phrosiectau ‘Cyfrifoldeb Diogelu’ sef yr ymarferoldeb tymor-hir o gyfundrefn atal amlhau niwclear a chynhyddu hyder yng ngwleidyddiaeth y byd.

Mae’r SCDD yn ymroddedig i ymgyrch addysg gyhoeddus i hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion rhyngwladol, ac i’r perwyl hynny mae wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn sefydlu cysylltiad clos gyda Chymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Deml Heddwch a Iechyd yng Nghaerdydd a sefydlwyd gan yr Arglwydd Davies ar gyfer pobl Cymru yn 1938.

Am fwy o fanylion am yr ymchwil a gweithgareddau SCDD, cysylltwch gyda’r Swyddog Rhaglen, Rachel Owen ddmstaff@aber.ac.uk.

Cyswllt: Am fwy o wybodaeth ynglyn â trwydded y wasg a chyfleuon lluniau ar gyfer y Gynhadledd yng Nghaerdydd, yn ogystal â threfnu cyfweliadau gyda’r siaradwyr, cysylltwch gyda Tim Kellow yn UNA-UK ar 020 7766 3446 neu kellow@una.org.uk