Penodi Cyfarwyddwr i'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter

Dr Hugh Aldridge

Dr Hugh Aldridge

02 Hydref 2006

Dydd Llun, Hydref 2 2006
Penodi Cyfarwyddwr i'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter
Penodwyd y Dr Hugh Aldridge yn Gyfarwyddwr ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter newydd a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) a Phrifysgol Cymru Bangor (PCB).

Cyn ei benodi roedd Dr Aldridge yn Gyfarwyddwr Diwydiant yn ‘The Cambridge – MIT Institute' ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cyn hyn bu'n Gyd-Gyfarwyddwr Swyddfa Cysylltiadau Corfforaethol Prifysgol Caergrawnt a chyn hynny yn Reolwr Cyswllt Prifysgol Strategol Byd-eang gyda Hewlett Packard.

Wrth siarad am ei weledigaeth ar gyfer y bartneriaeth newydd dywedodd Dr Aldridge:
“Nôd y Bartneriaeth yw creu cydweithio cynaladwy rhwng ymchwilwyr yn PCA a PCB a fydd yn gallu cystadlu gyda’r gorau yn y byd ac a fydd yn dylanwadu’n sylweddol ar economi a chymdeithas Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Fy rôl i yw hyrwyddo’r broses hon.”

Söolegydd yw a derbyniodd ei radd gyntaf yn Birmingham a’i ddoethuriaeth ym Mryste. Ymysg ei ddiddordebau mae’n rhestri peintio, beicio a nofio, ac fel brodor o Dorset mae falch o’r cyfle o gael byw a gweithio ger y môr unwaith eto.

Menter gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ywPartneriaeth Ymchwil a Menter PCA/PCB a’i nôd yw hybu gweithgaredd ymchwil a menter ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Bangor.

Mae gan y Bartneriaeth drefn reoli ymchwil ar y cyd, ac mae’n anelu ei buddsoddiadau at feysydd academaidd lle mae’r sefydliadau’n rhannu diddordebau ymchwil. Ar ben hynny, sefydlir Uned Cymorth Ymchwil a Menter ar y cyd i gynorthwyo academyddion drwy nodi blaenoriaethau am gyllid ymchwil, cynyddu’r cyllid i grantiau ymchwil a rheoli prosiectau mawr. Bydd hefyd yn arwain at fwyfwy o waith ymgynghori, ymchwil diwydiannol, trwyddedu a gweithgareddau eraill yn y drydedd genhadaeth.

Mae CYDA yn un o bedair canolfan ymchwil ar y cyd a sefydlwyd hyd yma. Y lleill yw’r 'Ganolfan Gymreig i Ymchwil Integredig yr Amgylchedd Wledig', y 'Ganolfan Ymchwil Uwch i Ddeunyddion a Dyfeisiadau Ymarferol', a’r 'Sefydliad Astudiaethau Canoloesoedd a Modern Cynnar' .