Tir Bywyd a Hamdden

Chwith i'r Dde; Phil Colburn, Golygydd Tir Bywyd a Hamdden, a Dan Downes o NFU Cymru yn lawnsiad y gwasanaeth arbrofol newydd

Chwith i'r Dde; Phil Colburn, Golygydd Tir Bywyd a Hamdden, a Dan Downes o NFU Cymru yn lawnsiad y gwasanaeth arbrofol newydd

17 Hydref 2006

Dydd Mawrth Hydref 17 2006
Tir Bywyd a Hamdden
Ewch ar-lein am wasanaeth gwybodaeth cefn gwlad rhad ac am ddim yng Ngorllewin Cymru
Mae ffynhonell allweddol o wybodaeth am amaethyddiaeth a'r economi wledig ar gael yn awr i bobl sy'n byw yng ngorllewin Cymru fel rhan o brosiect arbrofol.

Mae Prifysgol Cymru Aberystwyth yn agor ei bas-ddata Tir, Bywyd a Hamdden sydd wedi ei leoli ar y we, ar gyfer 60 o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Gall unrhywun yn y dair sir sydd yn berchen carden llyfrgell ddefnyddio’r gwasanaeth rhad hwn, oedd tan nawr ond ar gael i danysgrifwyr yn unig, yn eu mysg Prifysgolion, Colegau a Sefydliadau’r Llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r prosiect, sydd yn cael ei ariannu gan CyMal, Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru fel rhan o gynllun Linc y Canolbarth, wedi ei gynllunio i roi mynediad i ffermwyr, perchnogion busnesau bychain, gweithwyr gwledig a disgyblion ysgol i’r wybodaeth gefngwlad ddiweddaraf trwy glicio llygoden y cyfrifiadur.

Mae Tir, Bywyd a Hamdden yn ffynhonnell fawr o wybodaeth ar bob agwedd o’r economi wledig, gan gynnwys miloedd o gyfeirnodau at amaethyddiaeth, materion gwledig, gwyddorau anifeiliaid, rheolaeth cefn gwlad, astudiaethau ceffylau, cadwriaeth, pynciau amgylcheddol, garddwriaeth, coedwigaeth a thwristiaeth.

Mae’r bas data yn cynnwys y newyddion diweddara’ a ymchwil, dolenau cyswllt gwe, cyfeirnodau at gyfnodolion academaidd, proffesiynol a phoblogaidd, datganiadau i’r wasg, gweithgareddau cynhadleddau, adroddiadau a llyfrau.

Bob wythnos ceir hyd at 400 o gofnodion gwybodaeth newydd eu cyhoeddi ar y bas data, gyda tua 20,000 o eitemau newydd bob blwyddyn.

“Mae Tir, Bywyd a Hamdden wedi ei gynllunio er mwyn i’r defnyddwyr fedru dod o hyd i’r wybodaeth sydd angen arnynt mewn amser byr,” meddai Phil Colburn, llyfrgellydd Gwyddorau Gwledig yn Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. “Mae’n angenrheidiol i’r rhai sydd yn dymuno ymchwilio neu cadw golwg ar faterion dros gyfnod o amser.

“Fel adnodd angenrheidiol i bobl sy’n gweithio gyda ac o fewn y gymuned wledig, dyma’r unig fas data y gwyddorau amaethyddol a gwledig sy’n cynnwys datganiadau i’r wasg, dyddiadur ymchwilwyr a’r wasg boblogaidd.

“Hyd yn hyn mae wedi bod ar gael i brifysgolion, colegau a sefydliadau’r llywodraeth sydd yn tanysgrifio i’r gwasanaeth, ond rydym yn cydnabod y gallai’r  wybodaeth sydd ofewn y bas data fod o ddefnydd ehangach.

“Os yw’r prosiect arbrofol yn llwyddiannus, mae’n bosib y gall y gwasanaeth gael ei gynnig ar draws Cymru.”

Derbynir cyfranidau wythnosol i’r bas data gan Brifysgol Cymru Aberystwyth, Y Brifysgol Amaethyddol Brenhinol, Prifysgol Harper Adams a Cholegau Kingston Maurward, Myerscough a Pershore.
Croesawodd Llywydd yr FUW Gareth Vaughan y bas data newydd ar y we fel teclyn defnyddiol i ffermwyr ar gyfer ymchwil ac ymwybyddiaeth o gynllunio busnes.

“Dwi’n deall, er enghraifft, os ydych chi eisiau dod o hyd i wybodaeth am afiechyd tafodlas mae yna 36 o gofeirnodau wedi eu rhestru gyda mwy ar y gweill yn yr wythnosau i ddod gan ei fod yn bwnc mor amserol,” meddai.

“Yn amlwg, mae bas data Tir, Bywyd a Hamdden yn ffordd gyffrous newydd o weld beth sydd yn y wasg a dyddiaduron ffermio ar hyn o bryd, casglu gwybodaeth cefndir o ansawdd da a cadw golwg ar beth sy’n cael ei ysgrifennu am sefydliadau ffermio, fel yr FUW, yn y wasg ehangach.”

Un arall a groesawodd lawnsio’r prosiect oedd Dai Davies, Llywydd NFU Cymru a ffermwr llaeth o Hendy-gwyn ar Daf.  “Gall ffermwyr fel fi yng Ngorllewin Cymru nawr wneud y mwyaf o drip siopa i’r dref gyda’r wraig.

“Mae ymweld gyda’r llyfrgell yn golygu gallwn ni gael yr holl wybodaeth sydd angen arnom i fod yn gymorth i ni gyda ein busnes trwy un glic ar y botwm.  Mae’r adnodd newydd yma yn ychwanegu at y wybodaeth sydd ar gael yn barod i aelodau NFU Cymru trwy gyfrwng ein gwefan a cylchgrawn.”

Nodiadau i’r Golygydd:
Dechreuodd Tir, Bywyd a Hamdden ar ddechrau’r 1980au fel ‘Update’ – y mynegai ffermio a cefn gwlad oedd yn cael ei gynhyrchu gan lyfrgell Coleg Amaethyddol Cymru ac yn cael ei argraffu mewn rhifyn wythnosol a misol ar gyfer y colegau amaethyddol.

Mae wedi bod ar gael ar y we ers 1996 gan Brifysgol Cymru Aberystwyth ac ers mis Awst 2002 gan Edina ym Mhrifysgol Caeredin.  Yn 2005, ailenwyd y bas data yn Tir, Bywyd a Hamdden i adlewyrchu ei fod nawr yn cynnwys cyfeiriadau i dwristiaeth ac adloniant, gan gynnwys amaethyddiaeth a chefn gwlad.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Sue Ferguson os gwelwch yn dda yn Tir, Bywyd a Hamdden ar 01970 621869 neu Duncan Foulkes, ymgynghorwr cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.