Casgliad llyfrau prin PCA

Dermot Ryan gyda rhai o lawysgrifau a llyfrau prin sydd gan y Brifysgol

Dermot Ryan gyda rhai o lawysgrifau a llyfrau prin sydd gan y Brifysgol

23 Hydref 2006

Dydd Llun Hydref 23 2006
Casgliad llyfrau prin PCA
Yma mae Dermot Ryan, Arweinydd Tîm Rheoli Casgliadau yn Gwasanaethau Gwybodaeth yn hyrwyddo casgliad o dros 10,000 o lyfrau a llawysgrifau prin sydd gan y Brifysgol. Gellir gweld engreifftiau ar hyn o bryd mewn arddangosfeydd yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry.

Mae gan y Brifysgol nifer o gasgliadau arbenning o lyfrau a phamffledi yn ei llyfrgelloedd. Maent yn cynnwys casgliadau personol a ewyllyswyd i'r Coleg neu a brynwyd gan y Llyfrgell, a chasgliadau mewn pwnc neu themau benodol. Mae'r eitemau a geir o fewn y casgliadau yma yn aml o werth hynafiaethol neu yn brin iawn, neu’n enghreifftiau o gynhyrchu a phrintio a llyfrau cain.

Un enghraifft yw casgliad o lyfrau, llawysgrifau a ‘objet d’art’ gafodd eu rhoi i’r Brifysgol gan George Powell o Nanteos rhwng 1879 a 1882. Mae’r casgliad yn cynnwys tua 2,500 o lyfrau print sydd yn cynnwys llenyddiaeth Ffrengig a Saesneg, cerddoriaeth a chelfyddyd gain a tua 300 cyfrol o gerddoriaeth o’r 19eg ganrif gyda’r pwyslais ar gerddoriaeth Ramantus a Wagner.

Ceir yma hefyd gasgliad wyth cyfrol o weithiau Shakespeare a gyhoeddwyd gan Warburton yn 1747. Defnyddiodd Samuel Johnson hon wrth baratoi ei eiriadur, ac o ganlyniad marciwyd a thanlinellwyd y tudalennau yn drwm. Prynodd Powell y casgliad yn 1862 am £15.15.0. Mae copi ffilm meicro o’r gwaith hwn ar gael i unrhywun sydd yn dymuno gweithio arnynt.

Mae’ r gwaith o gynhyrchu catalog llawn o’r casgliad llyfrau prin ar gyfer Voyager ar y gweill. Yn y cyfamser mae Bas-data Llyfrau Prin yn cynnig ffordd o chwilio dros 10,000 o lyfrau prin sydd yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry (ar gael drwy’r tab ‘Llyfrau Prin’ ar sgrin chwilio ‘Voyager’). Gellir defnyddio’r bas-data gyda Voyager i weld os yw eitem benodol gan y llyfrgell neu i bori pwnc penodol. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r eitem ar un o’r ddwy system, gallwch wneud cais ar lein.

Mae arddangosfeydd cyson o lyfrau prin yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry. Ar hyn o bryd ceir enghreifftiau o brintio lliw Fictorianaidd a rhwymiadau’r cyhoeddwr o Gasgliad Appleton yn yr arddangosfa yn Thomas Parry, a thema’r arddangosfa yn Hugh Owen yw teithio yng Nghymru gyda chyhoeddiadau o ddiwedd y 18ed tan ganol yr 20fed ganrif.

Mae’r ail arddangosfa yn Hugh Owen yn cynnwys enghreifftiau o brintio a rhwymo cain gan Wasg Gregynog. Sefydlwyd y wasg hon yn 1922 gan ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies yn ei cartref, Neuadd Gregynog yn y Canolbarth. Yn ystod cyfnod o ddeunaw mlynedd enillodd y Wasg enw am gynhyrchu agraffiadau llyfrau cyfyngedig o’r safon uchaf ac fe’i hystyrwyd ymysg y Gweisg Preifat mwyaf blaenllaw o’u dydd. Cafodd ei hail sefydlu yn 1978 o dan ei henw Cymraeg, Gwasg Gregynog, ac mae’n parhau i gynnal y traddodiadau, ac mae’r Brifysgol yn ychwanegu’n gyson at ei chasgliad eang o weithiau’r wasg.   

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i chwilio am Lyfrau Prin a gwneud cais amdanynt gweler: http://www.inf.aber.ac.uk/publications/cymraeg/leaflets/ll26h.asp
I gael rhagor o wybodaeth am gasgliadau penodol, gweler: http://www.inf.aber.ac.uk/academicliaison/cymraeg/collections/default.asp

Dermot Ryan
Arweinydd Tîm Rheoli Casgliadau
Gwasanaethau Gwybodaeth