Cynhadledd: Dyfodol Gwleidyddiaeth Cymru

Y Prifweinidog Rhodri Morgan ar Athro Noel Lloyd yn ystod agoriad yr Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol newydd.

Y Prifweinidog Rhodri Morgan ar Athro Noel Lloyd yn ystod agoriad yr Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol newydd.

19 Medi 2006

Dydd Mawrth, Medi 19 2006
Cynhadledd: Dyfodol Gwleidyddiaeth Cymru
Ar Ddydd Mercher Medi 20fed bydd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd arwyddocaol yng Nghanolfan Milenwim Cymru yng Nghaerdydd gyda Phrif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC yn traddodi'r araith agoriadol.

Ymysg cyfrannwyr eraill i'r gynhadledd ‘Dyfodol Gwleidyddiaeth Cymru’ bydd Yr Arglwydd Richard; Cadeirydd ‘Comisiwn Richard’ ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2002-04, a phedwar Aelod o’r Cynulliad; Jocelyn Davies (Plaid Cymru), John Griffiths (Llafur), David Melding (Ceidwadwyr) a Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol).

Meddai Dr Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru:
“Mae hon yn amser pwysig iawn yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae’r Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y blwyddyn wleidyddol sydd i ddod yn cael ei dominyddu gan yr etholiadau Fai nesaf: fydd yn penderfynnu pwy fydd yn cael defnyddio pwerau newydd y Cynulliad. Bydd y gynhadledd yn dod a nifer o’r ffigyrau allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru ynghyd, i asesu ble rydym erbyn hyn fel cenedl, a beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol.”