Astudiaethu Gwybodaeth yn cyrraedd y cant

Llyfrgell Thomas Parry

Llyfrgell Thomas Parry

04 Medi 2006

Dydd Llun 4 Medi 2006
Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn cyrraedd y cant
Ugain mlynedd wedi i Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth lansio ei chyrsiau dysgu o bell cyntaf mae'r Adran yn dathlu y nifer mwyaf erioed o fyfyrwyr newydd ar gyrsiau Meistr.

Yr wythnos hon (3ydd – 7ed o Fedi) mae cant o fyfyrwyr Meistr newydd o bob cwr o'r byd yn mynychu eu hysgol astudio gyntaf yn Aberystwyth, cynnydd o dros 60% ar y nifer llynedd.

Ymysg y gwledydd sydd yn cael eu cynrychioli eleni mae Canda, Tseina, Cyprys, Sbaen, Belize, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Libanus, Ynysoedd y Cayman, Gwlad Tai, Iwganda, Iwerddon, Lloegr a Chymru.

Mae Dr Geraint Evans yn ddarlithydd ar y rhaglen Dysgu o Bell.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o safbwynt denu myfyrwyr. Mae dysgu o bell fel ffordd o astudio yn gynyddol boblogaidd wrth i’r ymrwymiad ariannol o astudio llawn amser fynd yn drymach.”

“Mae llyfrgelloedd wedi cydnabod yr angen i staff ddysgu sgiliau newydd ac astudio am gymhwysterau uwch ers blynyddoedd, ac maen’t yn gweld dysgu o bell yn ffodd o hwyluso hyn a chadw staff gwerthfawr ar yr un pryd. Mae cyflogwyr yn buddsoddi mwy mewn hyfforddi staff yn ogstal, llynedd roedd 45% o’n myfyrwyr o Brydain yn derbyn cymorth ariannol.”

Flwyddyn yn ôl lansiwyd pedair ysgoloriaeth gan Cymal, adran bolisi Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn cyfrannu 50% tuag at gost cwrs Meistr o £5000 ar gyfer myfyrwyr sydd yn byw yng Nghymru.

Mae’r Adran yn cynnig pedwar cwrs Meistr (MSc) i bobl sydd yn dysgu o bell; Astudiaeth Llyfrgell a Gwybodaeth, Gweinyddiaeth Archifau, Rheolaeth Cofnodion, Rheolaeth Gwybodaeth a Gwasanaethau LLyfrgell, a Rheolaeth Gwybodaeth Iechyd.

Ar gyfartaledd mae pob cwrs Meistr yn cymryd tair blynedd i’w cwblhau ac mae gofyn i fyfyrwyr fynychu ysgol astudio unwaith y flwyddyn yn Aberystwyth.

Mae’r Adran wedi bod yn flaengar yn ei defnydd o dechnoleg gwybodaeth er mwyn darparu ystod o wasanaethau i’r myfyrwyr drwy ei system gynadledda gyfrifiadurol ar-lein, Gwylan. Mae hon yn cynnig ffordd hawdd i fyfyrwyr gadw mewn cysylltiad gyda’u gilydd a’u tiwtoriaid personol. 

Coleg Llyfrgellwyr Cymru oedd yr Adran pan gafodd ei sefydlu ym 1964, a daeth yn rhan o’r Brifysgol yn 1989. Bellach mae 75% o’r mwy na 1000 o fyfyrwyr sydd gan yr adran yn fyfyrwyr dysgu o bell.