Cornel compost

Ch i'r Dde: Y Dirprwy Is-Ganghellor Dr John Harries, Sam Lum, Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac Alan Stephens, Rheolwr Gwasanaethau Ty gyda'r 'Rocket Composter'

Ch i'r Dde: Y Dirprwy Is-Ganghellor Dr John Harries, Sam Lum, Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac Alan Stephens, Rheolwr Gwasanaethau Ty gyda'r 'Rocket Composter'

19 Rhagfyr 2007

Dydd Mercher 19 Rhagfyr 2007
Y cornel compost

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod peiriant compost newydd sydd yn gallu trin 1.2 tunnell (1,750 litr) o wastraff bwyd bod wythnos.

Prynwyd y “Rocket Composter”, a fydd yn cymryd gwastraff bwyd o geginau Caffe Canolfan y Celfyddydau a Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, gyda grant gwerth £25,000 gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd naddion wedi eu cynhyrchu o goed wedi eu clirio o'r campws yn cael eu cyfuno gyda'r gwastraff bwyd i gynhyrchu’r compost mewn proses sydd yn cymryd tua 14 diwrnod i’w chwblhau. Unwaith bydd y compost wedi aeddfedu caiff ei ddefnyddio ar weliau llwyni’r Brifysgol ac i botio blodau.

Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am Ystadau a Prosiectau Arbennig: “Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau sydd yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i wella ar ei pherfformiad amgylcheddol. Bydd yr holl wastraff cegin a fyddai wedi cael ei anfon i’w gladdu bellach yn cael ei drin ar y safle drwy ddefnyddio offer sydd wedi ei brofi ac yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau amgylcheddol megis y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.”

Cafodd y datblygiad groeso hefyd gan Sam Lumb, Llywyd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
“Mae hwn yn gam cadarnhaol i’r Brifysgol a Undeb y Myfyrwyr. Mae gan yr Undeb nifer o bolisiau amgylcheddol yr ydym yn eu gweithredu ac mae’r ‘Rocket Composter’ yn brawf fod Prifysgol Aberystwyth yn gwneud gwahaniaeth, ac nid sôn yn unig y mae. Rydym yn ymfalchio’n fawr yn yr effaith gadarnhaol y bydd y peiriant hwn yn ei gael,” dywedodd.

Cynhyrchir y “Rocket Composter” gan gwmni o Sir Gaer, Accelerated Compost Ltd.