'Most People are Other People'

John Hurt, 2001

John Hurt, 2001

12 Chwefror 2007

Dydd Llun 12 Chwefror 2007
‘MOST PEOPLE ARE OTHER PEOPLE'
Portreadau o Actorion o Brydain ac Iwerddon
Gan Stuart Pearson Wright
Mae Ysgol Gelf Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn cynnal arddangosfa o waith gan Stuart Pearson Wright o ddydd Llun 12 Chwefror tan ddydd Gwener 11 Mai, 2007.

Mae'r arddangosfa ‘Most People Are Other People’ yn cynnwys lluniau o actorion enwog megis Timothy Spall a ddaeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu Auf Wiedersehen Pet, Sian Phillips a chwaraeodd ran Livia yng nghynyrchiad y BBC o I, Claudius, Alan Rickman, llais Marvin yn y ffilm ddiweddar The Hitchhicker’s Guide To The Galaxy, Terry Jones o Monty Python, Jeremy Irons a Daniel Ratcliffe sydd yn chwarae rhan Harry Potter.

Dywedodd Robert Meyrick, Pennaeth Ysgol Gelf Aberystwyth:
“Mae Stuart Pearson Wright wedi ei ddisgrifio fel Hogarth ein cyfnod ni. Daeth yr arlunydd, sydd yn byw ac yn gweithio yn Nwyrain Llundain, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau, i sylw’r cyhoedd gyntaf tua’r adeg pan oedd yn graddio o Ysgol Celfyddyd Gain Slade yn 1999. Mae’n gredwr mawr ym mhwysigrwydd sylfaenol dylunio.”

“Er taw fel arlunydd portreadau y mae’n cael ei adnabod yn bennaf, mae wedi peintio a ysgythru tirwedd, ac yn 2006 cafodd arddangosfa o waith bywyd llonydd yn Browse & Darby, Llundain. Mewn gwirionedd ef yw un o’n arlunwyr mwyaf amryddawn, ac mae wedi dangos cryn ymroddiad i’w waith peintio, dylunio a gwneud printiadau.”

Agorodd ‘Most People are Other People’  yn y ‘National Portrait Gallery’ a’r ‘National Theatre’, yn Llundain yn haf 2006. Ei hymweliad gyda’r Ysgol Gelf yn Aberystwyth fydd yr unig gyfle i weld yr arddangosfa hon yng Nghymru.

Mae ‘Most People are Other People, Portraits Of Actors From Britain & Ireland’, gan Stuart Pearson Wright, yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o ddydd Llun 12ed Chwefror tan ddydd Gwener 11eg Mai 2007. Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn, o ddydd Llun tan ddydd Gwener.