“Territorial identities and boundaries in a borderless world”

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

14 Chwefror 2007

Dydd Mercher 14 Chwefror 2007
Darlith Gregynog
“Territorial identities and boundaries in a borderless world”
Bydd yr Athro Anssi Paasi o Adran Daearyddiaeth Prifysgol Ouluof, y Ffindir, yn traddodi Darlith Gregynog heddiw, dydd Mercher 14eg o Chwefror. Cynhelir y ddarlith yn narlithfa A12 yn Adeilad Hugh Owen a bydd yn dechrau am 7 yh.

Mae'r Athro Paasi yn un ddaearyddwyr gwleidyddol mwyaf blaengar y byd ac mae ei ddiddordebau yn cwmpasu pedwar prif faes; Hunaniaethau adeiladwaith gymdeithasol rhanbarthau a thiriogaethau; Damcaniaethau am ranbarth a lle; Y cysylltiad rhwng tiriogaethau, ffiniau ac ymwybyddiaeth uniogol/cymdeithasol; Rhethreg globaleiddio a dychymyg geo-wleidyddol.

Yn ei ddarlith bydd yr Athro Paasi yn gwneud cysylltiadau pwysig ar draws y gwyddorau mewn cyfnod o lobaleiddio parhaol.

Yn ystod cyfnod o fwy nag 20 mlynedd cyhoeddodd yr Athro Paasi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol, ysgrifennodd a golygodd lyfrau, a cynrychiolodd nifer of cyfnodolion rhyngwladol.

Yn ogystal mae'n Athro er Anrhydedd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, safle sydd yn cael ei chynnig i academyddion rhyngwladol blaengar.