Dysgu Gyda'n Gilydd

Dafydd Wyn Morgan

Dafydd Wyn Morgan

22 Chwefror 2007

Dydd Iau 22 Chwefror 2007
Penuwch i fod yn ganolbwynt dysgu
Diddordeb mewn coginio iach, hanes lleol, ysgrifennu creadigol neu ffotograffiaeth ddigidol? Dyma rai o'r gweithgareddau sydd yn cael eu trefnu ar gyfer pobl sydd yn byw ym Mhenuwch yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill gan y rhaglen ddysgu gymunedol ‘Dysgu Gyda'n Gilydd’, sydd yn cael ei chydlynnu gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae rhaglen o sesiynau blasu rhad ac am ddim yn cael ei lansio nos Lun 5ed Mawrth am 7 y.h. gyda sesiwn dwy awr ar wneud celfi yn Maesywawr, Bontnewydd, dan arweinyddiaeth y tiwtor Jonathon Lewis.

Y rhaglen lawn yw:
Dydd Iau 8ed Mawrth, Cyflwyniad i’r We 7-9 y.h. Ysgol Penuwch
Dydd Llun 12eg Mawrth, Rag-rgio, 7-9 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Mercher 14eg Mawrth, Hanes Lleol, 7-9 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Llun 19eg Mawrth, Ysgrifennu Creadigol, 7-9 y.h., Pentre Sali Mali, Blaenpennal
Dydd Iau 22in Mawrth, Coginio’r Iach, 7-9 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Llun 26in Mawrth, Ioga, 7-9 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Llun 2il Ebrill, Cymraeg i Ddechreuwyr, 7-9 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Mercher 14eg Ebrill, Defnyddio Camera Digidol, 6-8 y.h., Ysgol Penuwch
Dydd Mercher 25th Ebrill, Garddio Cymunedol, 6-8 y.h., Ysgol Penuwch

Rheolwr Dysgu Gyda’n Gilydd yw Dafydd Wyn Morgan.
“Man cychwyn yw’r sesiynau blasu ym Mhenuwch er mwyn cymell pobl i feddwl am beth fydde nhw’n dymuno ei weld yn cael eu trefnu yn y tymor hir.  Nod Dysgu Gyda’n Gilydd yw gwrando ar yr hyn sydd gan y gymuned i’w ddweud a chynorthwyo pobl i drefnu’r cyrsiau mae nhw eisiau a dod o hyd i diwtoriaid a gofal plant er enghraifft,” dywedodd.

“Mae llawer o’r gweithgareddau yn ymwneud yn yn uniongyrchol gyda ysgolion gwledig fel lleoliadau ar gyfer dysgu gydol-oes ac fellyn yn sicrhau dilyniant i’r thema o ysgolion cymunedol.”

“Sefydlwyd rhwydwaiht o gydlynwyr er mwyn gweithio yn agos gyda phob cymuned er mwyn sicrhau fod y rhaglen a ddatlygir yn adlewyrchu anghenion y gymuned honno, a’u dyheadau. Yn ogystal mae’ r prosiect  yn anelu i ddatblygu patrwm cynaladwy ar gyfer gweithgareddau dysgu cymunedol gwledig yn y dyfodol,” ychwanegodd.

LansiwydDysgu Gyda’n Gilydd ym mis Mawrth 2006 er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddiant mewn deg cymuned yn Ngheredigion; Llangeitho, Lledrod, Tregaron, Llanfihangel Ystrad, Llanarth, Llangybi, Capel Dewi, Troed yr Aur, Llandyfriog a Phenbryn. Gosodwyd targed o gofrestru 140 o uniogolion ar gyrsiau dros gyfnod o 2 flynedd. Eisioes cofrestrwyd 143 ar gyrsiau mewn 6 ardal ofewn y 12 mis cyntaf.

Cyllidwyd y cynllun gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ac mae’n cael ei redeg gan Brifysgol Cymru Aberystwyth gyda chymorth y partneriaid Dysgu Bro/Community Learning, Coleg Ceredigion, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, a’r cynllun gofal plant, Genesis.

Os ydych yn byw yn un o’r deg ardal lle mae’r prosiect yn weithredol ac am gyfrannu, cysylltwch â Dafydd Wyn Morgan ar 01970 628516 neu e-bost wwm@aber.ac.uk .