Deall gefell tanllyd y Ddaear

Gwener: Credit: ESA/VIRTIS and VMC teams

Gwener: Credit: ESA/VIRTIS and VMC teams

29 Tachwedd 2007

Dydd Iau 29 Tachwedd 2007
Deall gefell tanllyd y Ddaear

Y canlyniadau diweddaraf o Venus Express
Cafwyd cydnabyddiaeth ers tro fod y Ddaear a'r blaned Gwener yn rhannu nodweddion ond mae canlyniadau o long ofod yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), Venus Express, sydd wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Nature' (29 Tachwedd 2007) yn datgelu llawer mwy am y prosesau sydd ar waith ac wedi golygu bod Gwener wedi esblygu i fod mor wahanol i’r Ddaear.    

Lansiwyd Venus Express ym mis Tachwedd 2005 ac mae wedi bod yn darparu data ar efell tanllyd y Ddaear ers iddi gyrraedd cylchdro Gwener yn Ebrill 2006. Mae’r canlyniadau diweddaraf yn ymddangos yn rhifyn 29 Tachwedd o Nature sydd yn cynnwys naw papur penodol ar weithgareddau gwyddonol Venus Express ac yn darparu’r llun mwyaf manwl o’r blaned hyd yma.

Un o’r awduron yw’r Athro Manuel Grande, Pennaeth Grŵp Ymchwil Ffiseg y Gyfundrefn Heulol,  Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r Athro Grande yn gyd-ymchwilydd ar yr offeryn ASPERA-4 sydd ar Venus Express ac wedi ei greu er mwyn edrych ar gyfansoddiad y gofod sydd yn nesaf at atmosffer y blaned Gwener.
“Mae’r ardal hon yn ddeinamig iawn lle mae’r gwynt solar o ronynnau gwefredig o’r haul yn adweithio â haenen uchaf yr atmosffer. Nid yw hyn yn digwydd ar y Ddaear gan fod maes magnetig y Ddaear yn ei hamddiffyn. Ar Gwener mae hyn achosi i haenen uchaf yr atmosffer gael ei chymryd oddi yno,” dywedodd.

“Yr hyn sydd yn bwysig yw fod y canlyniadau yma yn dangos fod y deunydd sydd yn gael ei gario ymaith ar y gymhareb H2O. Mewn geiriau eraill mae Gwener yn colli dŵr. Mewn gwirionedd ychydig iawn o ddŵr sydd ar ôl ar Gwener. Mae’n lle hynod annifyr a phoeth iawn gyda effaith tŷ gwydr sydd allan o reolaeth ers amser. Mae hyn golygu taw i’r gofod mae’r dŵr wedi bod yn mynd yn hytrach na chael ei ymgorffori mewn mwynau ar wyneb y blaned. Mae’n dianc ar ffurf ïonau, dau ïon hydrogen am bob un ocsigen.   

 “Casgliad o offerynnau yw ASPERA-4 sydd yn chwilio am atomau, electronau a ïonau yn y rhan o’r gofod sydd yn agos at Gwener. Mewn llawer ffordd mae’n wahanol iawn i’r gofod sydd yn agos at y Ddaear, ac yn llawer tebycach i’r hyn sydd yn agos i Mawrth neu gomed. Yma yn Aberystwyth rydym yn gyfrifol am edrych ar ôl y synwyryddion yn y rhan o’r offer sydd yn chwilio am atomau,” ychwanegodd.

Mae astudio ïonosffer (yr or-uwch atmosffer sydd wedi ei heioneiddio) y blaned Gwener yn adeiladu ar y traddodiad gwych sydd yn Aberystwyth o astudio ïonosffer y Ddaear, ac wrth gwrs mae edrych ar y gwahanol sustemau yn ein cynorthwyo hefyd i ddeall ein sustem ni yn well.  Mae astudio Gwener hefyd yn rhan bwysig o’r cynnig llwyddiannus am gyllid ymchwil gwerth £2.25m a ddyfarnwyd i Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol yn 2006 am raglen ymchwil i’r Sustem Solar.

Yn aml cyfeirir at Gwener fel chwaer blaned y Ddaear oherwydd y tebygrwydd mewn maint, màs, dwysedd a chyfaint.  Ar gyfartaledd mae hi 108 miliwn o gilmoetrau o’r haul, tua 30% yn agosach na’r Ddaear. Ond, does dim dŵr ar Gwener, ac mae iddi atmosffer wenwynig a thrwm, o garbon diocsid yn bennaf, ac mae’n bwrw glaw asid sylffwrig. Wyneb y blaned yw’r boethaf yn y system solar, mae’n eirias boeth a’r tymheredd yn 750k (477°C). Y gred yw i hyn gael ei achosi gan effaith tŷ gwydr trychinebus o ganlyniad i lefelau uchel o garbon diocsid yn yr atmosffer.