Llwyddiant ailgylchu

Sych mewn sach! (Chwith i'r dde) Cynorthwyydd Lleihau Gwastraff Cyngor Sir Ceredigion Adrian Keenan gyda Alan Stephens, Pennaeth Gwasanaethau Ty Prifysgol Aberystwyth, a Jenny Mace, Swyddog yr Amgylchedd a Moesau Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Sych mewn sach! (Chwith i'r dde) Cynorthwyydd Lleihau Gwastraff Cyngor Sir Ceredigion Adrian Keenan gyda Alan Stephens, Pennaeth Gwasanaethau Ty Prifysgol Aberystwyth, a Jenny Mace, Swyddog yr Amgylchedd a Moesau Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

29 Hydref 2007

Dydd Llun 29 Hydref 2007
Cynllun ailgylchu yn llwyddiant mawr
Mae mwy o wastraff nag erioed o Brifysgol Aberystwyth yn cael ei ailgylchu wedi i'r Brifysgol fabwysiadu Cynllun Bagiau Lelog Cyngor Sir Ceredigion yn ei neuaddau preswyl.

Yn dilyn astudiaeth beilot yn neuaddau glan môr y Brifysgol, ehangwyd y cynllun bagiau lelog ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd i gynnwys yr holl neuaddau ar y campws. Fel rhan o’r cynllun ehangach gosodwyd 200 daliwr bagiau ailgylchu yng ngheginau’r neuaddau, ac yn ôl Pennaeth Gwasanaethau Ty’r Brifysgol, Alan Stephens, mae’r canlyniadau wedi bod yn eithriadol.

“Mae’n amlwg fod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r angen i ailgylchu a’u bod yn gwneud pob ymdrech posib i ddefnyddio’r sustem newydd. Gwta bedair wythnos wedi rhoi’r dalwyr bagiau newydd yn y ceginau mae mwy o wastraff yn cael ei ailgylchu yn y bagiau lelog nag sydd yn cael ei roi yn y bagiau du traddodiadol.”

“Yn y gorffennol roedd cynnwys 9 bin sbwriel mawr yn mynd i’w gladdu o neuaddau Cwrt Mawr yn unig. Wedi i ni gyflwyno’r dalwyr bagiau lelog mae cynnwys 5 bin yn mynd i’w ailgylchu. Yn ystod tair wythnos gyntaf y tymor newydd ailgylchwyd 1.75 tunnell o wastraff o neuaddau preswyl y Brifysgol”, ychwanegodd.  

Ar hyn o bryd mae Ceredigion yn ailgylchu dros 36% o wastraff trefol ac yn un o’r gorau o ran perfformiad yng Nghymru.  Er mwy cyrraedd targedau tymor hir am ailgylchu / compostio a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mae angen i Cyngor Sir Ceredigion barhau i wella ei berfformiad drwy gyflwyno cynlluniau casglu sbwriel newydd i gymell ail gylchu a chompostio mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant, aelod cabinet Priffyrdd, Eiddo & Gwaith, fod llwyddiant ailgylchu yn y sir yn deillio o frwdfrydedd y cyhoedd i raddau helaeth. “Mae myfyrwyr yn rhan fawr o’r boblogaeth ac mae ailgylchu gwastraff yn mynd i fod dipyn yn rhwyddach i’r rhai sydd yn byw mewn neuaddau preswyl ac / neu sydd heb gar ar ôl i ni gyflwyno’r cynllun ailgylchu bagiau lelog. Fel rhan o’r cynllun mae’r Cyngor wedi prynu 40,000 o fagiau ailgylchu lelog er mwyn eu defnyddio yn y dalwyr sachau ailgylchu.”

Mae’r datblygiad wedi derbyn cefnogaeth Jenny Mace, Swyddog yr Amgylchedd a Moeseg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. “Mae’r cam hwn yn un i’w groesawi. Mae angen i gynlluniau ailgylchu ystyried natur ddynol ac o’r herwydd mae cyfleustra yn allweddol. Os yw’r cynllun ailgylchu yn un cyfleus mae mwy yn mynd i’w ddefnyddio, rhywbeth sydd yn cael ei adlewyrchu yn llwyddiant y cynllun bagiau lelog. Mae eisiau i ni ehangu’r cynllun i feysydd eraill megis defnyddio pacediadau sydd wedi eu gwneud o startsh grawn ŷd ar gyfer bwyd cyflym.”

Mae’r Brifysgol yn gobeithio ehangu’r defnydd o’r dalwyr sachau ailgylchu, sydd yn cael eu cynhyrchu gan Waste Recycler Company yn Sir Down, Gogledd Iwerddon, i bob un o’r neuaddau preswyl.