Hyrwyddo llenyddiaeth

Y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones AC yn croesawu cyhoeddiad yr Undeb Ewropeaidd

Y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones AC yn croesawu cyhoeddiad yr Undeb Ewropeaidd

04 Rhagfyr 2008

Dydd Iau 4 Rhagfyr 08
£1.3m: Arian Ewrop i Brifysgol Aberystwyth

Mae rhwydwaith llenyddol rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael grant o dros filiwn o bunnoedd gan Frwsel er mwyn hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant ar draws Ewrop a thu hwnt.

Gwnaed y cais llwyddiannus am €1,389,500 (£1.3m) gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Sefydliad Mercator yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r unig gynllun llenyddol i dderbyn arian o Raglen Ddiwylliant y Comisiwn Ewropeaidd eleni a’r unig gynllun o’i fath i gael ei ariannu am y trydydd tro yn olynol gan Frwsel.

Bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu rhwydwaith Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) dros y pum mlynedd nesaf.

Ers ei sefydlu yn Aberystwyth yn 2000, mae LAF wedi bod yn gyfrifol am drefnu llu o ymweliadau a digwyddiadau llenyddol yn Ewrop a thu hwnt, gan gynnwys mynychu rhai o brif ffeiriau llyfrau’r byd.

Mae 25 o wledydd bellach yn aelodau o’r rhwydwaith sy’n ceisio rhoi llais i holl ieithoedd Ewrop ym marchnadoedd diwylliannol y byd.

Y cymhorthdal o Frwsel yw’r garreg filltir ddiweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau i godi proffil Cymru ar y llwyfan diwylliannol rhyngwladol.

Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, mae dros 200 o gyfrolau llenyddol o Gymru wedi eu cyfieithu a’u cyhoeddi ym mhob rhan o’r byd - diolch i rwydwaith LAF a Chyfnewidfa Lên Cymru yn Aberystwyth.

“Mae’r grant yma o Frwsel yn gosod Cymru yn gadarn ar fap llenyddol Ewrop ac yn dangos ein bod yn arwain ym maes hyrwyddo llenyddiaeth ar draws ffiniau ieithyddol,” meddai Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, Sioned Puw Rowlands.

Cafwyd croeso i benderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd gan y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones AC.
“Dwi’n falch o glywed bod Cyfnewidfa Lên Cymru wedi sicrhau arian ychwanegol o Ewrop, er y sefyllfa ariannol anodd.  Mae hwn yn adeiladu ar y gwaith da sydd wedi digwydd eisoes ac yn gam ymlaen i godi proffil rhyngwladol ein hawduron,” meddai’r Gweinidog, a fydd yn siarad mewn cynhadledd newyddion i gyhoeddi manylion y cymhorthdal o Ewrop am 1 o’r gloch yn yr Oriel yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Adrian Kear, bod y cyhoeddiad yn gydnabyddiaeth o’r gwaith ehangach sy’n cael ei wneud gan sefydliadau academaidd. 

“Mae’r cymhorthdal hwn yn arwydd clir o sut y mae’r Adran yn arwain datblygiadau yn y diwydiannau diwylliannol ar draws Ewrop a thu hwnt,” meddai.