£23.5m i'r gwyddorau biolegol

Yr Athro Jamie Newbold yn sgwrsio gyda'r Gweinidog Addysg Jane Hutt ar ôl y cyhoeddiad.

Yr Athro Jamie Newbold yn sgwrsio gyda'r Gweinidog Addysg Jane Hutt ar ôl y cyhoeddiad.

21 Gorffennaf 2008

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru fod ei chanolfan fiowyddorau newydd o safon byd yn mynd i dderbyn £23.5 miliwn ganddynt.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ar stondin y Brifysgol ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ar ddydd Llun 21 Gorffennaf.

Mae'r dyfarniad yn sicrhau y bydd IBERS - Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - yn gwneud cyfraniad arwyddocaol tuag at ddatrys rhai o brif broblemau amgylcheddol y byd, yn ogystal â chyfrannu at yr economi ac ymchwil yng Nghymru.

Defnyddir yr arian i ddarparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu newydd ar gampws Penglais a Gogerddan, Aberystwyth a bydd hefyd yn creu swyddi gwyddonol a rheoli.  Mae'n rhan o raglen fuddsoddi bum mlynedd sy’n werth £55 miliwn.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos cefnogaeth gref i’n gweledigaeth, ac mae’r arian yn ychwanegol at fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol,” meddai’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Rydyn ni’n adeiladu un o’r timau mwyaf yn Ewrop o wyddonwyr a staff cynorthwyol yn y maes hwn.  Mae ganddyn nhw enw da eisoes ledled y byd a bydd y dyfarniad hwn yn cryfhau’r enw da hwnnw fwy fyth.”

“Drwy’r Gynghrair yn y Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol sydd gennym â Phrifysgol Bangor, rydyn ni’n creu canolfannau o ragoriaeth mewn ymchwil ac arloesedd a fydd yn arwain y diwydiannau bwyd a biotechnoleg at ddyfodol mwy sefydlog a chynaliadwy.”

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad dywedodd Jane Hutt; "Yr heriau mawr ar gyfer yr unfedgranrif ar hugain fydd dysgu byw gyda newid hinsawdd, ynnu adnewyddol, diogelu cyflenwad bwyd, a heintiau planhigion ac anifeiliaid. Mae'nt yn mynd i ddylanwadu yn fyd eang ac yn lleol ar ein lles a'n iechyd.

"Mae'r datblygiad hwn yn gyfle mawr i Gymru ddatblygu arbenigedd ymchwil sydd o bwys i Gymru. Bydd yn gymorth i adeiladu ar enw da Cymru fel lle lle mae modd gwneud ymchwil o wir safon a pherthnasedd a all gael effaith bellgyrhaeddol ar wyddoniaeth, cymdeithas a'r economi.

"Mae uno IGER i Brifysgol Aberystwyth a'r cydweithio strategol gyda Phrifysgol Bangor yn cynnig cyfle unigryw i greu canolfan ymchwil a datblygu strategol sydd yn gystadleuol yn rhyngwladol. Yn unol â'r hyn sydd yn Cymru'n Un, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynigion o gydweithio rhwng Prifysgolion ar draws Cymru. Mae'r buddsoddiad hwn mewn canolfan ymchwil genedlaethol yn gam pellach at gyflawnu yr hyn sydd yn Cymru'n Un."

Gweledigaeth IBERS yw datblygu ymchwil wyddonol y bydd modd ei defnyddio’n ymarferol i fynd i’r afael â heriau mawr fel y newid yn yr hinsawdd, sicrwydd bwyd a thanwydd, a chlefydau anifeiliaid a phlanhigion.  Mae hefyd yn hyfforddi dros 1,000 o israddedigion a myfyrwyr ymchwil.

“Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn help i ni ddatblygu un o’r canolfannau mwyaf a bywiocaf ar gyfer ymchwil amgylcheddol yn y byd, a fydd â ffocws cryf ar drosi ymchwil bur yn dechnoleg ddefnyddiol,” meddai Wayne Powell, cyfarwyddwr IBERS.

“Bellach, rydym mewn sefyllfa dda i ddenu mwy o wyddonwyr o safon byd i Gymru, a thrwy rhaglenni israddedig a uwchraddedig y Sefydliad gallwn ddatblygu ac ysbrydoli ein doniau ein hunain.”

Dyma rai o’r prosiectau ymchwil sydd eisoes ar y gweill sy’n dangos sut y byddan nhw’n helpu amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig i addasu at y dyfodol:
•        Ymchwil i borthiant anifeiliaid er mwyn ceisio gollwng llai o fethan i’r aer a gwella ansawdd y cig.
•        Pecynnau newydd fel y gall ffermwyr brofi eu hanifeiliaid eu hunain am glefydau fel llyngyr yr iau.
•        Cynhyrchu tanwydd o gnydau nad ydynt yn fwyd, gan gynnwys bioethanol o rygwellt heb effeithio ar gynhyrchu bwyd ar draws y byd.
•        Mathau newydd o laswellt ac ydau sydd yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd.

Cafodd IBERS ei greu yn gynharach eleni drwy uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) gyda Phrifysgol Aberystwyth.  Ar yr un pryd ffurfiodd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor Gynghrair Strategol yn y Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol. Gyda’u gilydd bydd y ddwy Brifysgol yn gwneud gwaith ymchwil sylfaenol ac yn gweithio ar reolaeth ecosystemau daear ac arfordir er mwyn eu galluogi i addasu i newidiadau yn yr hinsawdd.

Cynghrair ar gyfer y dyfodol
R. Merfyn Jones, Is-ganghellor Prifysgol Bangor
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cyhoeddiad hwn heddiw ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i wireddu’r weledigaeth sy’n rhan o’r Gynghrair.  Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod Cymru yn arwain y byd ym maes y gwyddorau biolegol ac amgylcheddol.”

Sicrhau rhagoriaeth
"Mae’r Cynghrair newydd a ffurfiwyd drwy uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd â Phrifysgol Aberystwyth a’r cysylltiadau newydd â Bangor yn dod ag arbenigeddau cryf ym maes y biowyddorau ac ymchwil amgylcheddol a thir at ei gilydd”, meddai Steve Visscher, Prif Weithredwr Dros Dro y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.  “Drwy weithio gyda’i gilydd gall y ddau sefydliad gyfuno’r cryfderau hyn, a ffynnu.  Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn newyddion ardderchog a bydd yn cryfhau gallu’r DU i fynd i’r afael â’r heriau yn y Rhaglen Byw gyda Newid Amgylcheddol.  Bydd yr arian yn rhoi gwyddorau’r amgylchedd a thir yng Nghymru ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol a bydd hefyd yn sicrhau ymchwil o’r radd flaenaf a ddaw â budd economaidd a chymdeithasol ledled y byd.”