'Cwmni Disglair'

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

29 Gorffennaf 2008

Cyhoeddwyd fod Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth wedi ennill Dyfarniad Cwmni Disglair gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Lansiwyd y cynllun Dyfarniadau Cwmni Disglair gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2007 er mwyn cydnabod cwmnïoedd ym myd y celfyddydau sydd yn dangos rhagoriaeth ac arloesedd.

Mae Canolfan y Celfyddydau yn un o 22 sefydliad sydd wedi eu cydnabod a bydd yn derbyn £120,000 rhwng Medi 2008 a Mawrth 2010.

Dywedodd Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth;
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi ein dewis yn Gwmni Disglair yn y gyfres gyntaf o'r wobr newydd hon. Mae’n gydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y mae Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yn chwarae ym mywyd Cymru. Mae’r ailddatblygiad gafodd ei gyllido yn 2000 wedi galluogi’r Ganolfan i ehangu ystod a safon ei gwaith yn sylweddol ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o hyn.

“Bydd y datblygiad sydd ar waith ar hyn o bryd, y stiwdios i artistiaid a unedau busnes creadigol sydd wedi eu dylunio gan un o brif ddylunwyr y Deyrnas Gyfunol Thomas Heatherwick, ac yn agor ym mis Hydref, yn gymorth i ehangu ymhellach yn arbennig i artistiaid a busnesau celfyddydol ac yn codi’r Ganolfan i’w lefel nesaf o ddatblygiad.”

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau.  Mae’n croesawu dros 650,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu'r celfyddydau perfformio a gweithgareddau yn nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, 236,000 ym ymweld â'r arddangosfeydd a thros 100,000 yn cymryd rhan yn y rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw. 

Yn 2000 cwblhawyd prosiect o ailddatblygiad gwerth £4.3 miliwn ac ar hyn o bryd mae’r Ganolfan yn ymgymryd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn sy'n cynnwys nifer o stiwdios ar gyfer artistiaid a diwydiannau creadigol yn ogystal â stiwdios dawns a gofod perfformio a fydd yn man cychwyn ar gyfer rhaglen newydd sbon i gynnal artistiaid preswyl.  Bydd y datblygiad hwn yn rhoi i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth amrediad o gyfleusterau a fydd heb eu hail yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Bu'r broses o ddethol yn un heriol a dwys iawn, a hynny oherwydd nifer aruthrol y ceisiadau o safon uchel a gafwyd, sy'n adlewyrchu safon y gwaith arbennig sy'n mynd rhagddo yng Nghymru. Cynhaliodd CCC ymgynghoriad allanol ar y meini prawf ar gyfer y Dyfarniadau, ac mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed iawn gyda safonwyr allanol arbenigol er mwyn sicrhau bod y Dyfarniadau yn cael eu dyfarnu i'r sefydliadau hynny sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd orau."

Mae 22 o sefyliadau wedi derbyn Dyfarniad Cwmni Disglair:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Academi
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig BBC Cymru
Clwyd Theatr Cymru
Theatr i Bobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru
Contemporary Temporary Artspace (g39)
Dawns Tân Tân Dance Cyf
Cwmni Dawns Diversions
Ffotogallery
Galeri
Oriel Gelf Glynn Vivian
Syrcas Gymunedol NoFit State Cyf
Oriel Davies Gallery
Oriel Mostyn, Llandudno
Dawns Rubicon
Canolfan Grefftau Rhuthun
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Theatr Iolo
Theatr Mwldan
Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro Cyf
Valleys Kids
Opera Cenedlaethol Cymru