Graddio 2008

Graddio

Graddio

15 Gorffennaf 2008

Dydd Iau 10 Gorffennaf, 2008
Prifysgol Aberystwyth i urddo wyth Cymrawd newydd

Bydd wyth Cymrawd yn cael eu hurddo gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod y seremonïau graddio eleni sydd yn cael eu cynnal rhwng y 15ed a'r 18ed o Orffennaf.

Rhoddir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i unigolion sydd naill ai'n gyn fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, neu â bywyd Cymru. 

Cymrodyr 2008 a threfn y cyflwyniadau:

Dydd Mawrth 15ed Gorffennaf am 11.00 y bore
Mr Matthew Rhys. Actor Cymraeg o enwogrwydd rhyngwladol.
Ms Janet Lewis-Jones. Is-Lywydd Bwrdd Dosbarthiad Ffilmiau Prydain.

Dydd Mawrth 15ed Gorffennaf am 3.00 y prynhawn
Y.A.M. Tunku Naquiyuddin Ibin Tuanku Ja'Far. Cyn-fyfyriwr, diplomydd, gwr busnes ac aelod o Deulu Brenhinol Malaysia.

Mercher 16eg Gorffennaf am 3.00 y prynhawn
Mr Huw Wynne-Griffith. Cyn-fyfyriwr a chyn Is-Lywydd y Brifysgol, partner yng nghwmni Barnett-Waddingham, ystadegyddion ac ymgynghorwyr.

Dydd Iau 17eg Gorffennaf am 11.00 y bore
Syr John  Shortridge. Cyn brif was sifil Cymru; wedi chwarae rhan allweddol mewn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.
Yr Arglwydd David Rowe-Beddoe. Cadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru, cyn gadeirydd y WDA a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig.

Dydd Iau 17eg Gorffennaf am 3.00 y prynhawn
Dr Alan Axford. Cyfarwyddwr Clinigol Meddyginiaeth yn Ysbyty Bronglais, prif glinigwr yr Ymddiriedolaeth ar gyfer gwasanaethau cancr.

Dydd Gwener 18ed Gorffennaf am 3.00 y prynhawn
Ms Sioned Wiliam. Cyn-fyfyrwraig; Comisiynydd Comedi i ITV Central.

Cynhelir seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth yn y Neuadd Fawr, yng Nghanolfan Celfyddydau’r Brifysgol. 

Trefn y seremonïau

Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2008
Seremoni 1 - 11am
Saesneg; Hanes a Hanes Cymru

Seremoni 2 - 3pm 
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2008
Seremoni 3 - 11am
Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Ieithoedd Ewropeaidd; Cymraeg

Seremoni 4 - 3pm
Y Gyfraith a Throseddeg

Dydd Iau 17 Gorffennaf 2008
Seremoni 5 - 11 am
Ysgol Rheolaeth a Busnes; yr Ysgol Gelf; Addysg

Seremoni 6 - 3pm
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwareon ac Ymarfer Corff; Astudiaethau Gwybodaeth

Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2008
Seremoni 7 - 11 am
Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol

Seremoni 8 - 3pm
Cyfrifadureg; Sefydliad y Gwyddorau Gwledig