Graddio

Matthew Rhys

Matthew Rhys

18 Gorffennaf 2008

Eleni gwelodd y Brifysgol y nifer mwyaf erioed o'i myfyrwyr yn graddio. Yn ystod yr wythnos hefyd urddwyd wyth Cymrawd newydd.

Fore Mawrth cafodd yr actor o Gaerdydd Matthew Rhys, sydd â chysylltiadau teuluol agos â Phennal ger Machynlleth, ei gyflwyno gan Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Catrin Hughes. Caiff ei adnabod yn bennaf am chwarae rhan y cyfreithwyr hoyw Kevin Walker yn y gyfres deledu Americanaidd Brothers & Sisters, ac am ei bortread o Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love a rhyddhawyd yn ddiweddar.

Yn ystod yr un seremoni cafodd Ms Janet Lewis-Jones ei chyflwyno yn Gymrawd gan yr Athro John Williams. Mae Ms Lewis-Jones yn Is-lywydd Y Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydeinig ac yn ymddiriedolwr gyda Ymddiriedolaeth Baring a'r BBC ac yn gadeirydd Panel Dewis Aelodau Glas Cymru

Brynhawn Mawrth cafodd Y.A.M Tunku Naquiyuddin Ibni Tuanku Ja’afar ei gyflwyno’n Gymrawd gan yr Athro Aled Jones. Bu Y.A.M Tunku Naquiyuddin Ibni Tuanku Ja’afar , neu Bill fel yr oedd yn cael ei adnabod yn ystod ei ddyddiau yn fyfyriwr yma yn Aber, yn astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg. Ef yw mab hynaf Eu Mawrhydi Yr Yang di Pertuan Besar o Negeri Sembilan, Malaysia, a Tunku Ampuan. Yn ogystal â bod yn ddiplomat a gwr busnes llwyddiannus y mae hefyd yn Ganghellor ail brifysgol fwyaf Malaysia, Universiti Kebangsaan Malaysia (UKM).

Tro cyn Is-Lywydd y Brifysgol, Mr Huw Wynne-Griffith, oedd hi brynhawn Mercher i gael ei urddo’n Gymrawd. Cafodd ei gyflwyno gan yr Arglwydd Elystan Morgan. Derbyniodd Mr Wynne-Griffith radd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Bur ac yna radd meistr mewn Ystadegau yn 1967 cyn sefydlu ei hun yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw byd yr actiwarïaid.

Fore dydd Iau urddwyd dau, Syr Jon Shortridge a’r Arglwydd David Rowe-Beddoe.

Cafodd Syr Jon, ysgrifennydd parhaol cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno gan yr Athro Noel Lloyd. Yn raddedig o Brifysgol Rhydychen, bu’n ysgrifennydd personol i ddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards a Peter Walker. Yn 1997 cafodd ei benodi’n Uwch Gyfarwyddwr Materion Economaidd gyda chyfrifoldeb am sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar adeg ei ymddeoliad yn Ebrill 2008 ef oedd yr Ysgrifennydd Parhaol hiraf ei wasanaeth yn y Deyrnas Gyfunol. Cafodd ei wneud yn farchog yn 2002. 

Cyflwynwyd yr Arglwydd David Rowe-Beddoe gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Lyn Pykett. Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae’n ŵr busnes rhyngwladol sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus i’r celfyddydau perfformio.  Bu’n gadeirydd Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA) a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Canolfan y Mileniwm Cymru, Llywydd y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, a Chadeirydd Bwrdd Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei wneud yn farchog yn 2000 a’i ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi yn 2006.


Brynhawn Iau cafodd Dr Alan Axford ei gyflwyno gan yr Athro David Lavalle, Pennaeth Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Brifysgol. Derbyniod Dr Axford ei hyfforddiant yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain a cafodd ei benodi yn Feddyg Ymgynghorol i Ysbyty Gyffredinol Bronglais, Aberystwyth yn 1976. 

Ym Mronglais bu’n bennaeth adrannau Meddygaeth Anadliadol ac Oncoleg, ac yn 1995 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth. Yn 1997 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Meddygol yr Ymddiriedolaeth ac ef yw Prif Glinigwr Gwasanaethau Cancr yr Ymddiriedolaeth    ac mae’n cyfrannu at brofion cancr y Cyngor Ymchwil Meddygol. 

Mae wedi chwarae rhan flaenllaw  mewn datblygu cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn lleol sydd wedi arwain at nifer o grantiau i elusennau Cancr a datblygu ymchwil i gyflyrau anadliadol.  Mae Dr Axford yn aelod o Rwydwaith Cancr De Orllewin Cymru, Chadeirydd Grŵp Ymgynghorol ar Gancr yr Ysgyfaint ac aelod o Gwrp Ymgyngorol Cancr yr Ysgyfaint Cymru Gyfan.

Cafodd y gyn-fyfyrwaig a chomisiynydd rhaglenni teledu comedi sefyllfa blaenllaw, Sioned William, ei chyflwyno gan yr Athro Elan Closs Stephens yn seremoni ola’r wythnos brynhawn Gwener y 18ed o Orffennaf. Yn ystod gyrfa ddisglair gweithiodd ar nifer o raglenni teledu a radio poblogaidd megis Weekending, Second Thoughts, Knowing Me Knowing You gyda Steve Coogan, The Law Game, Peter Dixon’s Nightcap, a Dear Jenny Dear Julie gyda Paul Merton a Nicholas Parsons. Yn ogystal ag ymddanos ar S4C mae wedi cynhyrchu Tonight with Jonathon Ross, Game On (BBC2), Unfinished Business (BBC1), The Wilsons (Channel 4), a Big Train (BBC 2). Cafodd ei henwebu am BAFTA yn Lloegr dair gwaith ac enillodd y British Comedy Award a gwobr y Rhosyn Efydd yn Montreux am Big Train yn 1999, a BAFTA am Cold Feet.