'Wellcome' yn croesawu parasitiaid i Aberystwyth

Yr Athro Karl Hoffmann

01 Mai 2008

‘Wellcome' yn croesawu parasitiaid i Aberystwyth
Efallai bod afonydd a llynnoedd Affrica, De America ac Asia filoedd o filltiroedd o Adeilad Edward Llwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond dyma lle mae Karl Hoffmann, Athro Parasitoleg yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS)*, ar fin dechrau prosiect ymchwil sydd â'r potensial i wella bywydau miliynau o bobl sy’n cael eu hamlygu’n rheolaidd i lyngyr parasitig Schistosome.

Amcangyfrifir fod tua 200 miliwn o bobl wedi eu heintio gan lyngyr parasitig Schistosome, ac hyd at 300,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Prif gartref y llyngyren yw’r corff dynol. Mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol Affrica, De America ac Asia, caiff wyau’r parasit eu rhyddhau i’r amgylchedd gan unigolion heintiedig, gan ddeor wrth gwrdd â dŵr croyw.

Mae’r wyau hyn yn heintio malwod dŵr croyw, sy’n gweithredu fel llety dros dro, hyd nes y bydd cercariae, neu larfae parasitig, yn cael eu rhyddhau. Tra’n chwilio am gartref dynol mae’r cercariae yn symudol iawn ac yn cael eu cyffroi yn arbennig gan gynnwrf yn y dŵr, cysgodion a’r cemegau a geir ar groen dynol.

Mae’r llyngyr yn cydio yn y croen ac yna’n mudo drwyddo i’r system ysgyfeiniol, ac yn y pen draw y gwythiennau sydd o amgylch yr iau a’r bledren. Dyma lle mae’r llyngyr yn cyrraedd oed cenhedlu ac yn cynhyrchu cannoedd o filoedd o wyau bob dydd. Caiff llawer o’r wyau hyn eu rhyddhau mewn carthion dynol, ond mae eraill yn aros yn y corff, a gall y llyngyr fyw mewn pobl am hyd at 30 o flynyddoedd.

Er bod modd trin y parasitiaid â chyffuriau, maen nhw wedi dechrau magu ymwrthedd i’r driniaeth arferol, ac mae goblygiadau hyn yn ddifäol, gyda gwir berygl o bandemig a allai effeithio ar filiynau o bobl.

Yn ddiweddar, dyfarnodd Ymddiriedolaeth Wellcome, yr elusen ymchwil meddygol mwyaf sy’n ariannu ymchwil i iechyd dynol ac anifeiliaid, grant ymchwil prosiect tair blynedd i’r Athro Hoffmann, fydd yn caniatáu iddo weithio at greu brechiad i frwydro’r llyngyr hyn.

Does dim modd dweud yn union sut mae’r larfae yn treiddio drwy groen dynol, a nod y prosiect felly yw deall swyddogaeth y proteinau sy’n cael eu rhyddhau gan y larfae i’r corff. Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at greu brechiad fydd yn rhwystro’r larfa rhag treiddio drwy’r croen, gan atal y llyngyren rhag cwblhau ei chylch bywyd.

Mae’r Athro Hoffmann, sy’n dod yn wreiddiol o Pittsburgh, UDA, ac a raddiodd o Brifysgol Johns Hopkins, yn llawn cyffro wrth baratoi at greu tîm rhyngwladol ac eisoes mae wedi trefnu bod gwyddonydd o Frasil yn dod i weithio yn Aberystwyth am flwyddyn. Ei obaith yw tynnu ar arbenigedd hefyd o lefydd megis Affrica, Tsieina a Chaergrawnt, ac mae’n gweld y bydd y prosiect hwn, ynghyd ag eraill yn yr Adran, yn rhoi Aberystwyth ar y map.

“Mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud yma,” meddai.”Yn sicr, rwy’n edrych ymlaen at weld yr Adran yn dod yn Ganolfan Rhagoriaeth mewn Parasitoleg yn y DU, a hefyd at gydweithio gyda chanolfannau eraill ar draws y byd.”

Newyddion da i Aberystwyth, y Brifysgol a gwyddoniaeth feddygol, ond newyddion drwg iawn i’r llyngyr Schistosome!


*Sefydlwyd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn dilyn uno Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) â Phrifysgol Aberystwyth, ac mae’n gyfuniad o IGER a dwy o adrannau’r Brifysgol, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol a Sefydliad y Gwyddorau Gwledig.

Gyda dros 300 o staff a chyllideb flynyddol o fwy na £20m mae IBERS mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i’r heriau o ddefnydd cynaliadwy o dir, newid yn yr hinsawdd, a diogelu cyflenwadau bwyd a dŵr.
 
Yn ogystal bydd IBERS yn cynnig cyfleoedd newydd i fwy na 1,000 o israddedigion a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Bydd buddsoddiad dechreuol o fwy na £50 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd yn cynnwys adnoddau dysgu ac ymchwil newydd yng Ngogerddan ac ar gampws y Brifysgol ym Mhenglais.