Oed blodau menyn

Dr John Warren

Dr John Warren

12 Mai 2008

Dydd Llun 12 Mai, 2008
Petalau'r blodyn menyn yn datgelu oedran dolydd

Mae yna dechneg ar gyfer amcangyfrif yn fras oedran clawdd sydd yn hysbys i lawer, sef cyfri sawl rhywogaeth o goeden sydd mewn 30 metr o glawdd ac amcangyfrif 100 mlynedd am bob un. Ond sut mae amcangyfrif oedran cae neu ddôl? Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth o'r farn fod ganddynt yr ateb ond mae arnynt angen cymorth pobl ar draws y Deyrnas Gyfunol i brofi’r ddamcaniaeth.

Arweinydd y gwaith yw Dr John Warren o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS).
“Mae’r syniad yn un syml ac yn seiliedig ar y ffaith taw atgynhyrchu yn lystyfol wna nifer o blanhigion, ac o’r herwydd maent yn byw i oedran mawr,” dywedodd. “Ond fel yr ydym i gyd yn gwybod, nid yw pethau yn gweithio cystal wrth iddynt heneiddio.  Mae ymchwil rhagarweiniol wedi dangos fod blodau menyn hŷn (enw arall arno yw crafanc y frân) yn fwy tebygol o feddu ar betalau ychwanegol na rhai ifainc mewn caeau sydd newydd eu trin. Felly, gall cyfran y blodau menyn sydd â mwy na phum petal awgrymu oedran y cae neu’r ddôl – h.y. pryd cafodd y tir ei aredig ddiwethaf.” 

Sut y gallwch chi fod o gymorth?
Mae angen i chi wneud dau beth syml a dau beth sydd ychydig yn fwy cymhleth:
1.       Dod o hyd i gae sydd yn llawn blodau menyn (syml).
2.       Cael amcan o oedran y cae (pryd oedd y tro olaf iddo gael ei aredig) drwy ofyn i’r perchen tir neu hanesydd lleol (cymhleth).
3.       Sicrhau eich bod yn gallu adnabod blodyn menyn ymlusgol (cymhleth) - gweler y manylion isod.
4.       Edrych ar 100 blodyn menyn ymlusgol a chyfri y nifer sydd â mwy na 5 petal (syml).
Yna e-bostiwch amcangyfrif oedran eich cae, nifer y blodau sydd â phetalau ychwanegol, y lleoliad a’r dyddiad at Dr John Warren jhw@aber.ac.uk.

Sut mae adnabod blodyn menyn ymlusgol, neu Ranunculus repens i roi iddo ei enw gwyddonol?
Mae tair rhywogaeth o flodyn menyn sydd yn gyffredin i laswelltiroedd Prydain. Y blodyn menyn ymlusgol yw’r mwyaf cyffredin.

Gellir gwahaniaethu rhwng blodau menyn ymlusgol a’r math sydd yn cael ei adnabod fel crafanc brân y gweinydd (meadow buttercups) yn hawdd gan fod dail y blodau menyn ymlusgol yn rhannu’n dair rhan a choesyn byr yn cysylltu’r rhan ganol.

Yn ogystal mae modd gwahaniaethu rhwng blodau menyn ymlusgol a thrydedd rhywogaeth, chwys Mair (bulbous buttercup), yn weddol hawdd gan fod y sepalau sydd tu cefn i flodyn chwys Mair yn plygu yn ôl am goesyn y blodyn.