Penodiad

Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

30 Ionawr 2009

Dydd Gwener 30 Ionawr 2009
Penodi Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Newydd

Penodwyd Ms Susan Chambers yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth (PA).

Yn raddedig o Brifysgol Keele lle bu'n astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, mae gan Sue hefyd radd Meistr mewn Ymarfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth o Brifysgol Lancaster. Ymunodd ag Aberystwyth o Goleg Dinas Wolverhampton lle roedd yn Is Brifathro (Staff a Chwsmeriaid), swydd oedd yn cynnwys cyfrifoldebau am adnoddau dynol, hawliau cyfartal, datblygu staff, gwasanaethau i gwsmeriaid a marchnata.

Yn ogystal ag Adnoddau Dynol mae’n gyfrifol am Gyfleoedd Cyfartal ac mae ganddi dim o 20 sydd wedi ei leoli ym Mhlas Gogerddan ac mewn swyddfa yn Adeilad Cledwyn. Yn ogystal mae’n gyfrifol am y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd sydd hefyd wedi ei lleoli yn Adeilad Cledwyn ar gampws Penglais. 

“Mae’n bleser cael arwain y tîm Adnoddau Dynol yma yn y Brifysgol ar adeg pan fo gymaint o faterion cyffrous rown y gornel. Unwaith bydd y Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol wedi ei gytuno, sydd yn moderneiddio strwythurau cyflog yn y Brifysgol, byddwn yn dechrau ar y gwaith o’i weithredu,” dywedodd.

“Mae datblygu a chyflwyno’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn un o nifer o faterion pwysig sydd yn ymwneud â materion Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb sydd yn cael eu datblygu, ac mae nifer o syniadau cyffrous o safbwynt datblygu staff a fydd ychwanegu at rhaglen ddatblygu broffesiynol eang sydd eisoes yn bod yn y Brifysgol.”

Gyda’i phenodiad, Sue yw’r ail aelod o’i theulu i ddatblygu cysylltiad gyda’r Brifysgol gan i’w mhab, Alexander, raddio o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn 2006.

Pan na fydd yn gweithio, mae Sue i’w gweld ar fferm Frongoch gyda’i cheffyl Alfie neu allan yn cerdded gyda’i phartner Mike a’i chi Megan. Mae’n mwynhau ieithoedd, yn siarad ychydig Eidaleg ac yn edrych ymlaen at gael dysgu Cymraeg.