Ar y brig am brofiad myfyrwyr

Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

15 Ionawr 2009

Prifysgol Aberystwyth sydd yn cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 15 Ionawr.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn 8ed yn y Deyrnas Gyfunol allan o'r 101 prifysgol sydd wedi eu cynnwys.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Opinionpanel, arbenigwyr mewn ymchwil i farchnad myfyrwyr, a ofynnodd gwestiynau pen agored i 1,000 o israddedigion am y ffyrdd y mae eu sefydliad wedi cyfrannu yn gadarnhaol ac yn negyddol i'w cyfnod fel myfyrwyr.

Cafodd y canlyniadau eu defnyddio i lunio rhestr o 21 ffactor, gan gynnwys parodrwydd aelodau staff i gynorthwyo, llwyth gwaith, llety, cysylltiadau da gyda diwydiant a dysgu mewn grwpiau bychain. Nodwyd pwysigrwydd pob ffactor yn unol â’r pwyslais a roddwyd iddynt gan y myfyrwyr, drwy nodi’r gydberthynas gyda chryfder eu parodrwydd i argymell eu prifysgol i ffrind.

Yna gofynnwyd i dros 12,000 o israddedigion llawn amser i roi marc i’w prifysgol ym mhob un o’r agweddau yma.

Croesawyd y canlyniadau gan yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor â Chyfrifoldeb am Ddysgu ac Addysgu, Dysgu Cyfrwng Cymraeg a Chymorth i Fyfyrwyr.

“Yn yr Arolwg Profiad Myfyrwyr sydd wedi ei gyhoeddi gan y Times Higher Education heddiw mae ein myfyrwyr yn cydnabod ymrwymiad aelodau staff, safon uchel ein cyrsiau academaidd, yr adnoddau gwych, awyrgylch ddiogel, hardd a chroesawgar, a’r ysbryd gymunedol hyfryd sydd yn cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn Aberystwyth yn un mor gofiadwy i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.”

“Mae’r ffaith fod Aberystwyth wedi derbyn y sgôr uchaf ond un yn y categori ‘Byddwn yn argymell fy mhrifysgol i ffrind” yn adrodd cyfrolau ac yn dystiolaeth bellach o paham fod Aberystwyth yn ymddangos yn gyson yn y deg prifysgol uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr, rhywbeth sydd yn destun cryn falchder i bawb yma.”

“Ar yr un pryd y nod yw parhau i wella’r profiad myfyriol yma ym mhob agwedd. Mae ein myfyrwyr, a’r rhai fydd yn ymuno gyda nhw yma yn y dyfodol, yn gwybod nawr eu bod yn mwynhau amgylchedd fyfyrio gyda’r gorau sydd gan y Deyrnas Gyfuno i’w gynnig,” ychwanegodd.