Cymrodyr 2009

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno Cymrawd yn ystod seremoniau graddion 2008.

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno Cymrawd yn ystod seremoniau graddion 2008.

13 Gorffennaf 2009

Mae'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, yn un o saith Cymrawd er Anrhydedd a fydd yn cael eu hurddo gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod seremonïau graddio 2009.

Bydd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth a chyn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, yn cyflwyno’r Prif Weinidog fel Cymrawd er Anrhydedd brynhawn Iau 16eg Gorffennaf.

Cynhelir seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, o ddydd Mawrth 14eg tan ddydd Gwener 17eg o Orffennaf.

Cymrodyr Prifysgol Aberystwyth 2009
Mrs Mary Lloyd Jones        
Artist Cymreig o enwogrwydd rhyngwladol a chenhadydd ar gyfer celf a diwylliant Cymreig ar draws y byd.

Yr Athro Clyde Williams OBE        
Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough. Sefydlodd labordai cyntaf gwyddor chwaraeon y DG yn Loughborough ac Aberystwyth. Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Mr Dyfrig John        
Prif-weithredwr Banc HSBC.

Yr Athro Ching Fai Ng        
Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong, Athro Cemeg, Dirprwy Cyngres Genedlaethol Pobl Tseina, cyn gymrawd ôl-raddedig Nuffield ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Gwir Anhr Rhodri Morgan AC       
Prif Weinidog Cymru.

Y Fonesig Athro Jean Thomas FRS          
Meistr Coleg St. Catharine, Caergrawnt, Athro Biocemeg Macromoleciwlaidd, Prifysgol Caergrawnt.

Mr Huw Eurig Davies         
Prif-weithredwr a sylfaenydd cwmni teledu Boomerang.
Cyflwynir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i unigolion sydd naill ai'n gyn fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, neu â bywyd Cymru.