Aber ar Faes yr Eisteddfod

Yr Eisteddfod

Yr Eisteddfod

31 Gorffennaf 2009

Unwaith eto eleni mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen lawn o weithgareddau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae stondin y Brifysgol (rhif A26) o fewn tafliad carreg i'r Brif Fynedfa / Canolfan Groeso a drws nesaf i’r Neuadd Arddangos. Yn ogystal â’r croeso twymgalon arferol bydd gwybodaeth am gyrsiau ar gael a chyfrifiaduron wedi eu cysylltu i’r we.

Cystadleuaeth
Prifysgol Aberystwyth a’r Gemau Olympaidd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymarfer swyddogol i feicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. I nodi hyn rydym yn cynnal cystadleuaeth â beic mynydd Trek 3700 gwerth £300 yn wobr. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod ac ateb cwestiwn syml. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y stondin am 3.30 brynhawn Gwener 7 Awst. Cefnogwyd y gystadleuaeth gan Summit Cycles o Aberystwyth.

Rhaglen yr Wythnos
Dydd Llun - 3ydd o Awst, 2yp
Dr Huw Meirion Edwards: ‘Y Bardd o Blwy Llangywer’
Y Prifardd Dr Huw Meirion Edwards o Adran y Gymraeg yn trafod Madog Dwygraig, un o feirdd y canu dychan yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, oedd yn hoff o wyrdroi traddodiad parchus y canu mawl mewn ffyrdd chwareus a digrif.

Dydd Llun - 3ydd o Awst, 3.30yp
Her Prifysgol Aberystwyth
Profwch eich gwybodaeth gyffredinol! Tîm o aelodau staff y Brifysgol a chynlywyddion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – UMCA yn herio’u gilydd, ac yn cadw trefn ar y cyfan, yr hanesydd, awdur a’r darlledwr Dr Russell Davies.

Dydd Mawrth - 4ydd o Awst, 10.45yp
Lansio Llyfr Ymadroddion Cymraeg / Saesneg newydd ar gyfer yr iPhone.
Bydd yr Athro Chris Price a Dr Adrian Shaw o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol yn lansio’r cymhwysiad neu’r ‘app’ newydd hwn a fydd ar gael i’w lawr lwytho o wefan itunesam 59 ceiniog.


Dydd Mawrth - 4ydd o Awst, 12yp
Ffug Achos Llys
Mewn clwb nos yn Aberystwyth, cafodd dyn ei anafu. Heddiw bydd Rhys Thomas yn ymddangos gerbron y llys. A gaiff ei ryddhau ynteu ei gadw yn y ddalfa? Y llys sydd yn penderfynu. Myfyrwyr Adran Y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth sydd yn cyflwyno’r achos ac mae croeso i bawb ddod i gymryd rhan yng nghynnwrf y digwyddiad.

Dydd Mawrth - 4ydd o Awst, 2yp

Dr Bleddyn Owen Huws: ‘Martha, Jac a Sianco – y nofel’
I gyd-fynd â chyhoeddi ei nodiadau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar nofel Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco, bydd Dr Bleddyn Owen Huws yn traddodi darlith fer ar gymeriadau a phrif themâu’r nofel. Bydd yn tynnu sylw at y tyndra amlwg a welir ynddi rhwng yr ymlyniad wrth fywyd tynghedus a’r awydd am gael torri’n rhydd oddi wrtho. Bydd hefyd yn cyfeirio at arwyddocâd rhai o’r symbolau a geir yn y nofel.

Dydd Mercher - 5ed o Awst, 11yb
Derbyniad Tŷ Cyfieithu Cymru
Partneriaeth newydd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru (sy’n rhan o Sefydliad Mercator, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth) a chanolfan ysgrifennu genedlaethol Tŷ Newydd yw Tŷ Cyfieithu Cymru. Yn ystod y derbyniad gwobrwyir enillydd yr Her Gyfieithu a chewch gyfle i glywed am gynlluniau Tŷ Cyfieithu Cymru. Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Menna Elfyn ac Elin Haf Gruffudd Jones ymysg y siaradwyr. Darperir coffi a croissants felly cofiwch alw heibio’r stondin.

Dydd Mercher - 5ed o Awst, 3yp
Aduniad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Yn dilyn llwyddiant ysgubol aduniad cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd llynedd, dyma gyfle arall i gyn-fyfyrwyr o bob oed ac o bob cyfnod i ddod i gwrdd â’i gilydd ac hel atgofion. Y siaradwr gwadd eleni fydd y Prifardd Mererid Hopwood. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan y Brifysgol a Chymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr.

Dydd Iau - 6ed o Awst, 12.30yp
Tudur Davies: ‘Swyn y Swigod’
Dewch yn llu i weld sut mae mathemateg yn berthnasol i swigod sebon a sut gallant eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r ffordd fyrraf adref!

Dydd Iau - 6ed o Awst, 3yp
Derbyniad i Ddarpar-Fyfyrwyr
Am dri o’r gloch ddydd Iau bydd croeso mawr i holl ddarpar-fyfyrwyr 2009 i ddod i ymuno â ni yn y babell am ddiod bach ac adloniant gan Alun Gaffey. Bydd cyfle i chi, a’ch rhieni, ddod i sgwrsio gyda staff y Brifysgol a chyfarfod â phobl ifanc eraill fydd yn dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi.

Dydd Gwener - 7fed o Awst, 12yh
Ymchwil Cyfoes ym Maes Polisi Iaith
Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cynnal sesiwn arbennig ar ymchwil cyfoes ym maes polisi iaith dan arweiniad Patrick Carlin, John Glyn a Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth. Bydd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cadeirio’r sesiwn.

Dydd Gwener - 7fed o Awst, 3.30yp
Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth Olympaidd y Brifysgol
I nodi cynnwys Prifysgol Aberystwyth ar restr canolfannau ymarfer swyddogol i feicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 rydym yn cynnal cystadleuaeth â beic mynydd Trek 3700 yn wobr. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod ac ateb cwestiwn syml. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y stondin am 3.30 b’nawn Gwener.