Hybu Ymddiriedaeth mewn Byd Niwclear

Yr Athro Nicholas Wheeler

Yr Athro Nicholas Wheeler

14 Mai 2009

Iau 14 Mai 2009
Yr Her o Hybu Ymddiriedaeth mewn Byd Niwclear

Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) wedi dyfarnu £538,013 i’r Athro Nicholas Wheeler o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynnal astudiaeth amlddisgyblaethol i’r cysyniad o hybu ymddiriedaeth yng nghyd-destun gwladwriaethau sydd ag arfau niwclear a’r rhai sy’n ymarfogi’n niwclear.

Mae’r dyfarniad hwn yn un o 14 o gymrodoriaethau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 14 Mai 2009) gan yr ESRC a’r AHRC sy’n rhan o’r rhaglen Ansicrwydd Byd-eang sy’n canolbwyntio ar y modd y mae unigolion, cymunedau a gwladwriaethau’n ffurfio eu syniadau a’u credoau ynglŷn â sicrwydd ac ansicrwydd.

Bydd gwaith yr Athro Wheeler yn cynnwys astudiaethau achosion cymharol i densiynau niwclear a fydd yn ceisio nodi’r syniadau a’r credoau a lwyddodd i hyrwyddo ymddiriedaeth mewn rhai achosion ond nid felly mewn achosion eraill. Y nod yw defnyddio’r ‘arfer gorau’ a nodwyd mewn achosion sy’n ymwneud â drwgdybiaeth yn y cyd-destun niwclear. Bydd y prosiect hefyd yn cynnal cyfres o weithdai rhanbarthol lle bydd ysgolheigion ac ymarferwyr yn dod ynghyd i ystyried y gwersi y mae hanes yn eu cynnig (e.e. y cyfleoedd a gollwyd i hybu ymddiriedaeth) er mwyn datblygu syniadau newydd sy’n ymwneud â chreu ymddiriedaeth mewn rhanbarthau megis De Asia a’r Dwyrain Canol.

Wrth siarad am y dyfarniad, dywedodd yr Athro Wheeler, “Mae’r dyfarniad hwn yn newyddion gwych, yn wir. Diben y gweithgareddau damcaniaethol a chymhwysol hyn yw datblygu agendâu polisi newydd i geisio creu cyfleoedd i hyrwyddo ymddiriedaeth yng nghyd-destun un o’r materion diogelwch byd-eang pwysicaf oll, sef dyfodol arfau niwclear.”

Rhagwelir y bydd y £5.5 miliwn a fuddsoddodd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn cael effaith fawr ar y gymuned academaidd a, lle y bo’n briodol, yn effeithio hefyd ar bolisi ac arfer.

Yn ogystal â bwrw golwg dros y modd y mae unigolion a chymunedau’n datblygu eu syniadau a’u credoau ynglŷn â sicrwydd ac ansicrwydd, bydd y gymrodoriaeth hefyd yn ymchwilio i’r modd y gall rhai syniadau a chredoau arwain at wrthdaro, trais a throseddu a’r rhesymau dros hynny. Bydd y Gymrodoriaeth hefyd yn ymchwilio i’r modd y defnyddir iaith, delweddau a symbolaeth i newid y modd y mae peryglon a bygythiadau’n cael eu cyfleu i grwpiau gwahanol a’r modd y mae grwpiau gwahanol yn gweld y peryglon hynny.  

Meddai Ian Diamond, Prif Weithredwr yr ESRC, “Rydym yn byw mewn byd ansicr lle mae ystod eang o newidiadau socio-economaidd a demograffig sy’n gysylltiedig â’r newidiadau cyflym ym maes technoleg yn creu bygythiadau newydd i’n diogelwch ni. Bydd y cymrodoriaethau newydd hyn yn creu gwybodaeth ac yn datblygu dealltwriaeth ynglŷn â’r materion hyn fel bod modd inni greu ffyrdd mwy effeithiol o atal bygythiadau a’u lleihau.”

Mae rhaglen Ansicrwydd Byd-eang y Cyngor Ymchwil, dan arweiniad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn cynorthwyo integreiddio ymchwil amlddisgyblaethol i wrthdaro, terfysgaeth, pwysau ar yr amgylchedd a thlodi byd-eang.

Yr Athro Nicholas Wheeler yw Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Daviesyn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ef yw cydawdur The British Origins of Nuclear Strategy 1945-55 (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen), golygodd Human Rights in Global Politics (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2000) ar y cyd â Tim Dunne ac ef yw awdur Saving Strangers: Humanitarian Intervention in International Society (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000).

Mae wedi ysgrifennu toreth am ymyrraeth ddyngarol a’r cyfrifoldeb i amddiffyn. Dyma ei lyfrau diweddaraf: The Security Dilemma: Fear, Cooperation, and Trust in World Politics (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2008) (ar y cyd â Ken Booth) a National Interest Versus Solidarity: Particular and Univeral Ethics in International Life (Tokyo: Gwasg Prifysgol y Cenhedloedd Unedig, 2008) (golygwyd ar y cyd â Jean-Marc Coicaud). Ef yw cydolygydd y Cambridge Series in International Relations (ar y cyd â Chris Reus-Smit), mae’n un o Ymddiriedolwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Polisi’r Deyrnas Gyfunol, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a sefydlwyd ym 1919, oedd yr adran gyntaf o’i math yn y byd, yn canolbwyntio ar astudio cysylltiadau rhyngwladol.  Mae’r adran yn ganolfan ragoriaeth o’r radd flaenaf ac mae ganddi dros 500 o israddedigion, ysgol uwchraddedig o 120 a 38 o aelodau staff academaidd ar hyn o bryd sy’n cynnwys darlithwyr ac athrawon arbenigol sy’n dysgu dros 90 o fodiwlau. Yn yr Asesiad Ymchwil a gynhaliwyd yn 2008, barnwyd bod 40% o’i gweithgarwch ymchwil ‘yn arwain y byd’.

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yw sefydliad mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sy’n cyllido ymchwil i faterion economaidd a chymdeithasol. Mae’n rhoi cymorth i ymchwil annibynnol o ansawdd uchel sy’n effeithio ar fusnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae’r ESRC yn bwriadu gwario cyfanswm o £204 miliwn yn 2009/10. Ar unrhyw adeg, mae’r ESRC yn rhoi cymorth i dros 4,000 o fyfyrwyr ymchwil a myfyrwyr uwchraddedig mewn sefydliadau academaidd a sefydliadau ymchwil annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.esrcsocietytoday.ac.uk.  

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau: Bob blwyddyn, mae’r AHRC yn rhoi oddeutu £102 miliwn oddi wrth y Llywodraeth i gefnogi ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig yn y celfyddydau a’r dyniaethau, o ieithoedd a’r gyfraith, archaeoleg a llenyddiaeth Saesneg i ddylunio a’r celfyddydau perfformio. Mewn blwyddyn gyffredin, mae’r AHRC yn cyflwyno oddeutu 700 o ddyfarniadau ymchwil ac oddeutu 1,350 o ddyfarniadau uwchraddedig. Rhoddir y dyfarniadau ar ôl cynnal proses adolygu drwyadl gan academyddion, a hynny er mwyn sicrhau mai dim ond ymgeiswyr o’r ansawdd gorau sy’n cael eu cyllido. Mae dros chwarter o’r holl staff ymchwil yn y sector addysg uwch yn ymchwilwyr yn y celfyddydau a’r dyniaethau. Mae ansawdd ac ystod yr ymchwil sy’n cael cefnogaeth gan y cyllid cyhoeddus hwn yn arwain at fuddion cymdeithasol a diwylliannol ac mae hefyd yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y Deyrnas Gyfunol. www.ahrc.ac.uk.