Cystadleuaeth y diwydiannau creadigol

Darlun gan arlunydd o unedau creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Darlun gan arlunydd o unedau creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

06 Mai 2009

Mae gwahoddiad i staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd â syniad am fenter gymunedol neu fusnes yn seiliedig ar y diwydiannau creadigol gystadlu am y cyfle i ennill 12 mis mewn un o Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau.

Mae'r Unedau Creadigol gafodd eu creu gan Thomas Heatherwick, un o brif ddylunwyr gwledydd Prydain, yn brosiect gwerth £1m a wnaed yn bosibl yn sgil cefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynhelir y gystadleuaeth er mwyn cymell datblygiad syniadau busnes newydd sydd yn seiliedig ar y celfyddydau ac sydd yn wedi eu seilio ar ymchwil, arbenigedd a dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ar waith Canolfan y Celfyddydau, y brif ganolfan ddiwylliannol ranbarthol a chanolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. 

Un wobr sydd, sef cyfnod preswyl o 12 mis (o Awst 2009 tan Gorffennaf 2010), a fydd yn galluogi’r enillydd i sefydlu busnes newydd mewn un o’r Unedau Creadigol.    

Dyfernir y wobr i’r busnes neu’r fenter gymunedol sydd, yn nhyb y beirniaid, yn dangos y potensial busnes mwyaf, gwreiddioldeb a pherthnasoldeb i’r Brifysgol.

Bydd pob ymgeisydd yn cael cynnig cyngor ar fasnacheiddio eu syniadau, hyfforddiant sgiliau busnes, a’u cyfeirio at sefydliadau cymorth busnes defnyddiol.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i fyfyrwyr, staff a graddedigion o Brifysgol Aberystwyth sydd â syniad busnes neu fenter gymunedol sydd yn seiliedig ar y Diwydiannau Creadigol, gan gynnwys ffilm, teledu, y cyfryngau newydd, y celfyddydau perfformio, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, llenyddiaeth, a.y.y.b.

Mae ffurflen gais ar gael oddi wrth Tony Orme, Adran Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori, Prifysgol Aberystwyth awo@aber.ac.uk / 01970 622203 / 07773 471245.

Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau’r Ffurflen Gais a’i dychwelyd erbyn 5 o’r gloch brynhawn Gwener 22 Mai. Gellir gwneud hynny fel a ganlyn:
• Cwblhau’r ffurflen gais electronig a’i hanfon drwy e-bost at awo@aber.ac.uk
• Drwy brintio’r ffurflen, ei llenwi a’i phostio at:  Tony Orme, d/o CCS, Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3BF
• Ei hanfon drwy’r ffacs at sylw: Tony Orme i 01970 622959

Bydd y ceisiadau yn cael eu derbyn gan Adran Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori y Brifysgol mewn partneriaeth gyda Chanolfan y Celfyddydau a bydd pob syniad yn cael ei drin yn gyfrinachol. 

Caiff pob syniad ei adolygu a bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o CCS a Chanolfan y Celfyddydau.