Carreg Filltir Greadigol

Un o'r unedau creadigol

Un o'r unedau creadigol

21 Mai 2009

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth heddiw yn dathlu lansio comisiwn pensaerniol eithriadol a fydd yn darparu gofod stiwdio a gweithdai sydd eu gwir angen ar gyfer mudiadau celf yng Nghymru.
 
Mae'r wyth Uned Greadigol newydd, a ddylunwyd ac a godwyd gan Stiwdio  Heatherwick - un o gwmniau dylunio mwyaf creadigol y DU - eisoes wedi sefydlu eu hunain fel datblygiad unigryw yn Aberystwyth ac maent yn cynorthwyo i hybu enw da'r Ganolfan fel un o’r canolfannau mwyaf blaenllaw ar gyfer celf a diwylliant cyfoes yn y DU.

Mae’r cynllun yn un unigryw a thrawiadol sy’n cyfynd â’r safle. Mae’r adeiladau syml gyda’u fframau coed wedi eu gorchuddio gyda dur gloyw crychlyd sy’n creu effaith symudliw tra modern, yn adlewyrchu gwyrddni’r safle. Yn anghyffredin, bu’r gwaith adeiladu yn ogystal â’r gwaith dylunio yn cael ei arwain gan Stiwdio Heatherwick, gyda’i thîm arbenigol yn gweithio ar y safle gydag is-gontractwyr lleol i wireddu’r prosiect. Creuwyd y system gorchuddio ar y safle, gan ddefnyddio dyfais yn debyg i fangl Fictoraidd i drawsnewid y dur i’w ffurf anghyffredin.  Lleolir y stiwdios mewn tir coediog a thros amser byddant yn ymdoddi ymhellach i fewn i’r dirwedd aeddfed o’u cwmpas.

Gosodwyd pob un o’r unedau, gyda’r tenantiaid yn cynnwys y baentwraig adnabyddus ryngwladol Mary Lloyd Jones a Chreu Cymru - yr Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol ar gyfer Theatrau a Chanolfannau Celf yng Nghymru.  

Mae’r agoriad heddiw gan Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn nodi pennod newydd yn natblygiad y Ganolfan fel cymuned gelfyddydol lle y gall syniadau ffynnu. Bydd yr unedau newydd yn galluogi’r Ganolfan i gynyddu ei heffaeith economaidd ar Gymru a thu hwnt, ac i hybu ei swyddogaeth fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw’r wlad ym maes datblygu busnesau, cynnyrch a gweithgaredd creadigol. 

Y stiwdios yw’r datblygiad diweddaraf mewn rhestr hir o gomisiynau pensaerniol gan Stiwdio Heatherwick sy’n cynnwys yr East Beach Café yn Littlehampton.  Mae’r agoriad heddiw yn digwydd un flwyddyn yn union cyn agor pafiliwn gan Stiwdio Heatherwick i gynrychioli’r DU yn  Expo Shanghai 2010.

Dywedodd Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
 “’Rydym wrth ein bodd efo’r stiwdios a chynllun Heatherwick. Mae’r syniad wedi apelio’n fawr at fudiadau celf ac artistiaid yn yr ardal - ‘rydym wedi sefydlu cymuned greadigol yma a fydd yn cydweithio gyda, ac yn ychwanegu at gryfder, y clwstwr creadigol cynyddol yn Aberystwyth.”

Dywedodd Alun Ffred Jones AC:
“Mae’r celfyddydau cyfoes yng Nghymru yn ffynnu ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod gymaint o bobl ag sy’n bosibl yn medru eu mwynhau, lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag yw eu cefndir.  Mae diwylliant, ar ei holl ffurfiau, yn cyfoethogi bywyd. Lle ceir canolfannau creadigol fel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ceir cymunedau bywiog lle mae pobl yn awyddus i fyw a gweithio. Mae datblygiad o’r math hwn yr un mor bwysig â sefydlu parciau busnes.”
Dywedodd Thomas Heatherwick:  

"Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn lle uchelgeisiol ac arbennig. 'Roedd ein prosiect ni ynglyn â dylunio adeiladau a fyddai'n darparu safleoedd ymarferol llawn golau ar gyfer artistiaid a busnesau creadigol lleol, ond byddai hynny'n arbennig ac yn benodol i'r safle hwn a'r Ganolfan.  'Rydym wedi bod yn gweithredu fel teilwriaid pensaerniol - yn adeiladu ffurfiau syml gyda gorchudd eithriadol. Bydd y gorchudd hwn yn adlewyrchu'r safle ac wrth i'r coed ifanc a'r glaswellt ddechrau aeddfedu, bydd yr unedau yn fwyfwy yn rhan o'u hamgylchedd.  Mae'n ffantastig i glywed bod yr adeiladau i gyd yn llawn a'r tenantiaid wrth eu bodd. 'Rydym 'nawr yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Ganolfan ar gynlluniau i ehangu'r stiwdios a chodi adeilad mwy newydd dros dro y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Mary Lloyd Jones, artist preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau  Aberystwyth:  
“Un o’r rhesymau am wneud cais am gyfnod preswyl oedd y golau yn y stiwdio -mae’n hyfryd drosben.  ‘Rwyf wrth fy modd efo’r ffordd y mae’r unedau hyn wedi eu dylunio a’u gosod allan - mae’r gofod yn ddiddorol iawn ac mae’n bleser llwyr i fod yma.  Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ganolfan wych - mae’n brysur bob amser ac mae’r gwaith a wneir yma yn arbennig iawn.  ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygiadau’r dyfodol – yn enwedig gyda’r stiwdios newydd hyn.”

Gwnaethpwyd y datblygiad hwn yn bosibl yn sgil cefnogaeth oddi wrth Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Phrifysgol Aberystwyth.