Enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2009

Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

21 Mai 2009

Cyhoeddwyd canlyniadau cystadleuaeth Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Iau 21 Mai.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig yr ystod ehangaf o fwrsariaethau sydd ar gael gan unrhyw brifysgol ym Mhrydain. Mae'r dyfarniadau yn cynnig cefnogaeth ariannol gwerthfawr er mwyn sicrhau fod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu mwynhau manteision Addysg Uwch.

Nid budd ariannol yn unig y maent yn ei gynnig. Mae ennill Ysgoloriaeth Mynediad, Gwobr Teilyngdod, neu Bwrsariaeth Rhagoriaeth, Chwaraeon neu Gerddoriaeth yn arwydd o lwyddiant ac yn ychwanegiad gwerthfawr i CV unigolyn.  

Bwrsariaethau Rhagoriaeth, gwerth £2,000 am gyrsiau 3 blynedd (£2,667 – 4 blynedd, £3,334 - 5 mlynedd a £1,400 Graddau Sylfaen), ar gael i fyfyrwyr o'r Deyrnas Gyfunol/Undeb Ewropeaidd sydd yn cofrestru yn Aberystwyth ar bynciau penodol. Nod y Bwrsariaethau Rhagoriaeth yw gwobrwyo llwyddiant academaidd cyn cyrraedd prifysgol.

Ysgoloriaethau Mynediad, gwerth hyd at £3,600 dros 3 blynedd – mae tua 50 Ysgoloriaeth Mynediad a o ddeutu 200 Gwobr Teilyngdod ar gael bob blwyddyn. Mae rhain yn cael ei dyfarnu ar sail perfformiad mewn arholiadau sydd yn cael eu cynnal ddechrau Chwefror ym mlwyddyn mynediad i’r Brifysgol.

Bwrsariaethau Aberystwyth, cynorthwyo is-raddedigion llawn amser o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd sydd o deuluoedd ag incwm is.

Mae Aberystwyth hefyd yn cynnig: Bwrsari Llety – gostyngiad o £500 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn llety y Brifysgol; Bwrsari Chwaraeon - £500 y flwyddyn am gyfnod eich astudiaethau; Bwrsari Cerddoriaeth; £1,200 dros 3 blynedd; Bwrsari Gadael Gofal – gwerth hyd at £5,400 dros 3 blynedd.
 
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Ar hyd y blynyddoedd mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig cymorth ariannol hael i fyfyrwyr ar ffurf ysgoloriaethau. Rwyf yn falch iawn fod y cystadlu am ysgoloriaethau mynediad wedi bod yn frwd iawn unwaith eto eleni a hoffwn longyfarch y rhai a fu yn llwyddiannus. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant iddynt, ac i bawb arall a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, yn yr arholiadau yr haf hwn.”   

Enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2009
UWCH-YSGOLORIAETH £1,200 y.f.
Piotr Lukasz Chudzik, Gwlad Pwyl

YSGOLORIAETHAU AGORED £1,000 y.f.
Stacey Bluett, Budehaven Community School, Bude, Cornwall
Nicola Brain, The Bournemouth and Poole College, Poole, Dorset
Samuel Trygve Booth, King Edward VI Grammar School, Chelmsford, Essex
Michael Buchanan Halesowen College, Halesowen, West Midlands
Alexander Coulson dos Santos, Graveney School, Wandsworth, London
Georgina Ettritch, Stratford Upon Avon High School, Warwickshire
David Niklas Fischer, Yr Almaen
Bethan May Ford, Alcester Grammar School, Warwickshire
Stuart James Hawtin, South Downs College, Waterlooville, Hampshire
Lara Kenny, Sir William Perkin’s School, Chertsey, Surrey
James Mobley, South Bromsgrove High School, Worcestershire
Keir Alexander Nichols, Moorlands VI Form College, Cheadle, Staffordshire
Isaac Shortman, Wymondham College, Norfolk
Eleanor Jane Silkstone, Bacup and Rawtenstall Grammar School, Rossendale, Lancashire
Mark Andrew Talbot, Winstanley College, Wigan, Lancashire
Charlotte Tomkins, Redborne Upper School, Ampthill, Bedfordshire
Maximilian John Walker, William Parker Sports College, Hastings, East Sussex
Letty Wilson, Sir John Leman High School, Beccles, Suffolk

YSGOLORIAETHAU PRICE DAVIES £1,000 y.f.
Ashely Cook, Bungay High School Science College, Bungay, Suffolk
Gemma Cusack, Shrewsbury Sixth Form College, Shropshire
Polina Kalentsits Pangbourne College, Reading, Berkshire

YSGOLORIAETH JOHN HUGHES £1,000 y.f.
Joseph Baldwin, Lawrence Sheriff School, Rugby, Warwickshire

YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN £1,000 y.f.
Lea Helygain Adams, Ysgol Gymunedol Penweddig, Aberystwyth, Ceredigion
Geraint William Ashton, Lewis School, Pengam, Bargoed, Caerphilly
Sean Bibby, Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint
Thomas Clark, Pencoed Comprehensive School, Pencoed, Penybont
Adam James Davies, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl, Torfaen
Delor Marged Davies, Ysgol Y Preseli, Preseli, Sir Benfro
Ceri Ellen Evans, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd
Gwenno Elin Griffith, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd
Liam Dean Griffiths, Ysgol Bechgyn Aberdâr, Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
Osian Gruffydd, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd
Emily Victoria Hopkins, Ysgol Brynhyfryd, Ruthin, Sir Ddinbych
Fflur Angharad Jones, Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Samuel Iain Lawrence Ysgol Uwchradd y Trallwng, Y Trallwng, Powys
Berwyn Murray, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Alice Eluned Newton, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Llandaf, Caerdydd
Ffion Eluned Owen, Ysgol Dyffryn Nantlle, Caernarfon, Gwynedd
Hywel Purchase, Coleg Gorseinon, Gorseinon, Abertawe
James Andrew Warwood, Coleg Iâl, Wrecsam

YSGOLORIAETH Y PARCHEDIG HERBERT MORGAN £1,000 y.f.
Garmon Dafydd Iago, Ysgol Maesyryrfa, Cefneithin, Llanelli, Sir Gâr

YSGOLORIAETH SYR ALFRED JONES £1,000 y.f.
Rhian Mair Lloyd, Ysgol Maesyryrfa, Cefneithin, Llanelli, Sir Gâr

YSGOLORIAETH THOMAS DAVIES £1,000 y.f.
Christine Lockey Kingsley College, Redditch, Worcestershire

YSGOLORIAETH SIR BENFRO £1,000 y.f.
James Scotney, Ysgol Greenhill School, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro

YSGOLORIAETH LOVELUCK £1,000 y.f.
Ruth Elen Roberts, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn, Gwynedd

Mae manylion Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad 2010 ar gael o’r Swyddfa Marchnata a Recriwtio, Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Groeso i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth Ceredigion SY23 3FB
Ffôn: (01970) 622065
Ffacs: (01970) 621554
E-bost: marketing@aber.ac.uk
www.aber.ac.uk/info/schwe