Delhi 2010

Chwith i'r Dde. Dr Sangeeta Khorana, Mohmd Sarim, Rajeev Pandey a Joshua Chin gyda'r Ffon Gyfnewid Frenhinol.

09 Tachwedd 2009

Dydd Llun 9 Tachwedd 2009

Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Ffon Gyfnewid Gemau'r Gymanwlad

Bu'r gymuned o fyfyrwyr o India sydd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn croesawu’r Ffon Gyfnewid Frenhinol i’r Brifysgol nos Lun 9 Tachwedd fel rhan o’r dathliadau sydd yn arwain at gynnal Gemau’r Gymanwlad 2010 yn ninas Delhi.

Roedd y Ffon yng Nghymru am dri diwrnod (9ed, 10ed a’r 11eg o Dachwedd), ran o daith 340 niwrnod fydd yn ei gweld yn ymweld â’r 71 cenedl sydd yn rhan o’r Gymanwlad cyn iddi ddychwelyd i Delhi ar gyfer dechrau’r Gemau yn Hydref 2010. Y Gemau yma fydd digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal yn Delhi.

Mew derbyniad gyda’r Dirprwy Is-ganghellor Dr John Harries, dywedodd Dr Sangeeta Khorana, darlith wraig yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth
“Mae ymweliad y Ffon Gyfnewid Frenhinol ag Aberystwyth yn foment o gryn falchder i mi fel rhywun o India sydd yn byw ac yn gweithio yma, ac i’r holl fyfyrwyr o India sydd yn astudio yma.”

“Mae cael fy nghysylltu gyda Gemau’r Gymanwlad Delhi 2010 yn ffordd yma yn gofiadwy iawn ac yn gwireddu breuddwyd. Feddyliais i erioed y bydden i yn cael dal Ffon Gemau’r Gymanwlad Delhi yma yn Aberystwyth.”

Yn gwmni i’r Ffon yr oedd Ms Avny Lavasa a Mr Mahesh Shankar, aelodau o Bwyllgor Trefnu Delhi 2010, trefnydd y daith Annemaree Lavalle, a chynrychiolwyr o Gymru Ron Davies, Cledwyn Ashford, Gareth John, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, a Chris Jenkins, Chef de Mission Tîm Cymru Delhi2010.

Mae 38 o fyfyrwyr o bob rhan o India yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Mae nifer ohonynt yn astudio ar gyfer MBA yn yr Ysgol Reolaeth a Busnes tra bod eraill yn astudio yn adrannau Cyfrifiadureg, Astudiaethau Theatr, Film a Theledu, a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Mae gan y Brifysgol Femorandwm o Ddealltwriaeth gyda’r Sefydliad Masnach Tramor India (Indian Institute of Foreign Trade (IIFT)) yn Delhi Newydd sydd yn darparu ar gyfer cyfnewid myfyrwyr, aelodau cyfadrannau, cynlluniau ymchwil ar y cyd, rhaglenni diwylliannol a chynadleddau ar y cyd.

Yn ystod y flwyddyn academaidd a aeth heibio bu dau fyfyriwr o’r Sefydliad yn astudio yn llwyddiannus yn yr Ysgol Reolaeth a Busnes a bydd dau arall yn cael eu croesawi yma ym mis Chwefror 2010.