Prifysgol Masnach Deg

Yn dathlu statws Prifysgol Masnach Deg y mae Jeff Smith (Swyddog Cyfranogaeth a Moeseg), Mark Williams AS, Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor PA, Matt King (Swyddog Sabothol Cyfathrebu a Chymdeithasau), Katrina Austen (Swyddog Sabothol Addysg a Lles) a Zoe Coomes (aelod staff yn siop yr Undeb).

12 Hydref 2009

Heddiw Dydd Llun 12 Hydref, mae cynfyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Tom Marshall, yn mynychu te parti yn rhif 10 Stryd Downing i nodi dyfarnu statws Masnach Deg i'r Brifysgol.

Roedd Tom, a raddiodd mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yng Ngorffennaf 2009, yn swyddog yr Amgylchedd a Moeseg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystod 2008/9 a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i wneud Aberystwyth yn Brifysgol Masnach Deg.

Prifysgol Aberystwyth yw'r 100fed brifysgol neu coleg i dderbyn statws Masnach Deg ac mae’n rhannu’r fraint gyda Prifysgol Herriot-Watt a Choleg Myerscough yn Sir Gaerhirfryn. Mae’r dathliadau yn Llundain, sydd yn cael eu cynnal gan Sarah Brown, hefyd yn nodi 15 mlynedd ers i’r tri cynnyrch Masnach Deg cyntaf gyrraedd siopau yn y Deyrnas Gyfunol.  

Tra fod Tom yn mwynhau te Stryd Downing bydd Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams yn ymuno â staff a myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth i ddathlu’r llwyddiant. Rhwng 12 a 3 y prynhawn bydd aelodau o ‘Pobl a’r Blaned’ (People and Planet) yn cynnig cyngor ar gynnyrch Masnach Deg a chyfle i flasu peth cynnyrch am ddim, a bydd siop yr Undeb yn arddangos ei ystod o gynnyrch Masnach Deg gan gynnwys dillad cotwm.

Dywedodd Tom; “Mae cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn y digwyddiad hwn yn fraint ac fe gyflawnwyd hyn oll  o ganlyniad i ymdrech ac ymroddiad nifer o staff a myfyrwyr. Mae’r ffaith fod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn rhif 10 Stryd Downing yn brawf o lwyddiant rhyfeddol a dylanwad cynyddol y cynllun Masnach Deg.”

“Llefydd lle mae pobl ifanc yn mynd i ddysgu am y byd a’u lle ynddo fu prifysgolion ers y dechrau. Mewn amgylchedd sydd wedi ei globaleiddio yn gynyddol mae’n bwysig fod prifysgolion yn chwarae eu rhan ac yn hyrwyddo dinasyddiaeth gyfrifol fyd-eang. Rwy’n falch iawn fod ymdrechion Prifysgol Aberystwyth wedi eu cydnabod yn y ffordd yma,” ychwanegodd.

Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn fod statws Prifysgol Masnach Deg wedi ei dyfarnu iddi. Drwy ein canolfannau arlwyo rydym yn sicrhau fod cynnyrch Masnach Deg ar gael i staff, myfyrwyr, trefnwyr cynadleddau a chynadleddwyr. Mae ein darpariaeth Masnach Deg yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr, ein staff ac ymwelwyr i’r Brifysgol o’r angen i sicrhau gwell dyfodol i gynhyrchwyr yn y byd sydd yn datblygu.”

Dywedodd Jon Antoniazzi, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth;
“Yma yn Undeb y Myfyrwyr, rydym yn falch o’r ffaith fod Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn statws Prifysgol Masnach Deg, ac o’r cyfle i rannu’r dathliadau yma gyda phen-blwydd yr Ymddiriedolaeth Fasnach Deg. Mae’r mudiad Masnach Deg yn holl bwysig ar gyfer dyfodol masnach foesol, ac mae ein myfyrwyr yn frwd i’w hyrwyddo a’i gefnogi.”  

Dechreuodd y cynllun Prifysgolion a Cholegau Masnach Deg yn 2003. Er mwyn bod yn Brifysgol Masnach Deg mae ofynnol i staff a myfyrwyr ymrwymo i gefnogi Masnach Deg. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod cynnyrch Masnach Deg ar gael mewn caffes, bwytai a siopau ble bynnag y mae hyn yn bosibl, a chodi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a’r manteision sydd yn deillio ohoni i gynhyrchwyr mewn gwledydd sydd yn datblygu. 

Dywedodd Harriet Lamb, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Fasnach Deg;
“Rwy’n falch iawn o gael croesawi Prifysgol Aberystwyth i’r gorlan cynyddol o brifysgolion a cholegau sydd yn lledaenu’r neges Masnach Deg. Mae miloedd o bobl ifainc yn cerdded drwy ddrysau prifysgolion a cholegau bob blwyddyn a mae nifer ohonynt yn frwd iawn dros Fasnach Deg eisoes. Mae statws Masnach Deg yn cynnig y cyfle iddynt ddangos gwerth Masnach Deg i fyfyrwyr eraill ac yn cynorthwyo staff colegau a phrifysgolion i wneud gwahaniaeth i pobl sydd yn byw mewn gwledydd sydd yn datblygu ar draws y byd.”