Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus

Lyn Morgan

19 Hydref 2009

Penodwyd Lyn Morgan i swydd Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth.

Mae Lyn, sydd yn gyn gyhoeddwr a chyflwynydd ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio 3, yn ymuno â'r Brifysgol wedi cyfnod o 9 mlynedd yn rhedeg ei gwmni ymgynghori cyfryngol ei hun.

Yn wreiddiol o Gydweli yn Sir Gâr, graddiodd Lyn mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth yn 1982. Yn fwy diweddar, cwblhaodd radd MBA o Brifysgol Bradford a Diploma mewn Ffrangeg Busnes o Brifysgol Caerdydd.

Dechreuodd ar ei yrfa ddarlledu gyda Sain Abertawe yn 1978, tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, ac aeth i weithio i’r BBC yng Nghaerdydd ar ôl graddio. Yn ystod gyrfa 18 mlynedd gyda’r BBC bu’n gweithio fel darlledwr a rheolwr ym myd radio a theledu ac roedd yn rhan o dîm lansio BBC Choice Wales yn 1997. Yn y BBC, bu hefyd yn Uwch Gynhyrchydd Cyflwyno a Hyrwyddo, Prif Gynorthwyydd i’r Rheolwr a Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Ddarlledu.      

Yn 2000 sefydlodd Lyn Morgan Media Consulting, cwmni a oedd yn cynnig gwasanaethau cynghori a rheoli prosiect i gwsmeriaid yn y sector cyfryngol a diwylliant. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi symud i faes cynllunio cyfathrebu strategol a gwybodaeth gyhoeddus. Mae wedi gweithio fel cynghorydd,  ymgynghorydd ac hyfforddwr i awdurdodau lleol a sefydliadau yn y cyfryngau, yn ogystal â bod yn Ddarlithydd Cysylltiol yng Ngholeg Cynllunio Brys Swyddfa’r Cabinet.
Dywedodd am ei benodiad:
”Mae fy mywyd gwaith wedi troi o amgylch cyfathrebu, boed hynny yn y cyfryngau torfol neu un i un, ac mae’r byd hwn yn dal i’m rhyfeddu. Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i ymuno gyda Phrifysgol Aberystwyth ar adeg mor gyffrous. Ry’n ni’n byw drwy gyfnod o dwf eithriadol mewn cyfryngau digidol a rhwydweithio cymdeithasol, a gyda gymaint o newyddion da i’w adrodd, rwy’n eiddgar iawn i gael dechrau ar y gwaith!”

Mae Lyn, sydd yn briod â dau o blant 17eg a 12eg oed, yn aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig y Sefydliad Ymgynghori Busnes ac yn aelod cysylltiol o’r Sefydliad Dilyniant Busnes.