Gwella'r amgylchedd ddysgu ac addysgu

Yr Athro Martin Jones (canol), Brian Kelly o Web Focus (chwith) a'r Athro Paul Bacsich o Matic Media Ltd.

21 Hydref 2009

Dydd Mercher21 Hydref 2009

Gwella'r amgylchedd ddysgu ac addysgu i fyfyrwyr

Cafodd cynlluniau Gwell Aberystwyth, sydd wedi eu datblygu ar gyfer gwella'r profiad addysgu i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu lansio ddydd Mercher 21 Hydref gyda digwyddiad i arddangos ymarfer da mewn dysgu drwy ddefnyddio technoleg.

Mae’r cynlluniau yn rhan o Gwella, prosiect Cymru gyfan i gefnogi polisi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, “Defnyddio Technoleg i Gyfoethogi Dysgu ac Addysgu: Strategaeth i Addysg Uwch yng Nghymru”.   

Cynhaliwyd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys lansiad Nexus, gwefan adnoddau ar gyfer dysgu drwy ddefnyddio technoleg, yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais.
       
Pwyslais y digwyddiad oedd ymarfer da mewn dysgu drwy ddefnyddio technoleg a cafwyd rhagflas o’r cynlluniau fydd yn cael eu cynnig gan Gwella PA, sgwrs gan y siaradwr gwadd Brian Kelly o UK Web Focus, trafodaeth bwrdd crwn, ac arddangosfeydd a phosteri gan staff academaidd a oedd yn rhannu gwybodaeth am sut y maent wedi gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg mewn dysgu.

Mae gweithgareddau Gwella PA yn cwmpasu pum maes sydd yn cael blaenoriaeth – ymarfer da, e-asesu, dysgu drwy ddefnyddio technoleg, profiad myfyrwyr, a polisi/gweithdrefn. 
  • Mae gweithgareddau ymarfer da yn cynnwys cronfeydd cyllid datblygu a theithio ar gyfer staff academaidd yn ogystal â digwyddiadau megis lansiad Gwella er mwyn rhannu ymarfer da ym Mhrifysgol Aberystwyth a thu hwnt.
  • Mae’r cynlluniau e-asesu yn cynnig cymorth ac hyfforddiant mewn asesu ar-lein drwy ddefnyddio Questionmark Perception a ddaeth i law yn ddiweddar.
  • Mae’r cynllun dysgu drwy ddefnyddio technoleg wedi ein galluogi i brynu offer Campus Pack Web 2.0 ar gyfer Blackboard ynghyd â sesiynau hyfforddi ar gyfer ei ddefnyddio.
  • Mae’r prosiect profiad myfyrwyr yn cynnwys astudiaeth o brofiad myfyrwyr er mwyn darparu data ansoddol cyfoethog a fydd ar gael i’w osod mewn gweithdrefnau gwella ansawdd. 
  • Yn olaf, mae staff gweinyddol yn astudio polisi a threfn PA er mwyn sicrhau eu bod yn cydredeg yn agosach gyda’r agenda dysgu drwy ddefnyddion technoleg.
Mae pum brif edefyn gweithgaredd Gwella PA yn dod at eu gilydd o dan Nexus, gwefan adnoddau ar gyfer dysgu drwy ddefnyddio technoleg. Mae Nexus yn cynnwys newyddion am ddatblygiadau yn y sector, astudiaethau achos o ddysgu drwy ddefnyddio technoleg, canllaw ymarfer da a mwy. Gellir dod o hyd iddi ar http://aberystwythuniversity.xwiki.com/xwiki/bin/view/Main/.

Mae gweithredu cynlluniau Gwella PA yn cael eu goruchwylio gan dîm o dan gadeiryddiaeth yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, ac aelodau ar draws y Brifysgol gan gynnwys staff o’r Ganolfan Datblygu Staff a Ymarfer Academaidd a Tîm E-ddysgu Gwasanaethau Gwybodaeth.  

Yn ogystal, dynodwyd ‘cyfaill beirniadol’ – ymgynghorydd allanol sydd yn cynghori ac yn cefnogi’r cynllun. Yr ymgynghorydd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth yw Paul Bacsich, Cyfarwyddwr sefydlu Matic Media Ltd a Ymgynghorydd Hŷn gyda Sero Consulting Ltd.   

Dywedodd yr Athro Martin Jones: “Mae pwyslais dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ansawdd y profiad dysgu mae myfyrwyr yn ei fwynhau. Mae ein dulliau dysgu, dyluniad yr amgylchedd ddysgu a chyfeiriad sustemau cymorth dysgu ac addysgu yn deillio o ddealltwriaeth ddofn o sut a beth mae myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae Gwella yn ganolog i ddatblygu hyn ymhellach ac mae e-ddysgu yn rhan annatod o’n strategaeth ddysgu ac addysgu, ac mae’r datblygiadau yma yn rhai pwysig iawn”.