Gallai Aberystwyth arwain y byd

Yr Athro Steve Jones

27 Hydref 2009

Mae un o fywydegwyr enwoca'r byd yn dweud bod datblygiadau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ei gosod mewn lle delfrydol i arwain y byd ar faterion amgylcheddol.

“Mae Aberystwyth mewn safle da iddod yn un o Eco-Brifysgolion y byd,” meddai'r genetegydd, yr Athro Steve Jones, pan oedd yn ymweld â’r Brifysgol.

Mae’n un o dîm rhyngwladol o wyddonwyr, diwydianwyr, ffermwyr ac addysgwyr sydd wedi eu penodi i Fwrdd Ymgynghorol Allanol Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae potensial y buddsoddiadau a’r datblygiadau newydd arloesol sydd ar droed yn IBERS wedi gwneud argraff fawr arna’ i,” meddai.
“Gallai’r Sefydliad hwn wneud gwahaniaeth anferth o ran rhai o’r cwestiynau mawr sy’n wynebu’r byd heddiw – gan gynnwys datblygu cnydau newydd a fydd yn cynnig gwell gobaith am sicrwydd bwyd, dŵr ac ynni.”

Meddai’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae’n fraint i ni fod wedi denu pobl o’r calibr yma i gyfrannu’n ymarferol at gyfeiriad strategol IBERS. Mae eu harbenigedd a’u profiad eisoes wedi profi’n amhrisiadwy.”

Mae IBERS ynghanol buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd sy'n adeiladu ar draddodiad 90 mlynedd o ymchwil arloesol. Gyda mwy na 300 o wyddonwyr a staff cefnogi, dyma’r ganolfan ymchwil fwya’ o’i beth yn y Deyrnas Unedig.

Cysylltiadau lleol
Ac yntau wedi ei eni yn Aberystwyth ac wedi treulio llawer o’i blentyndod yn yr ardal, mae Steve Jones bellach yn bennaeth ar Adran Geneteg, Esblygiad ac Amgylchedd yr UCL yn Llundain ac yn gwneud ei waith ymchwil yn labordai byd-enwog Galton.

Yn ogystal â’i waith academaidd, mae’n enwog am ei allu i drosglwyddo syniadau cymhleth a phwysig am wyddoniaeth trwy gyfresi teledu poblogaidd ac mae ei lyfrau wedi ennill amryw o wobrau.

Bwrdd o safon byd
Mae’r Bwrdd Ymgynghorol, a fu’n cyfarfod am y tro cyntaf yn Aberystwyth yr wythnos hon, yn cynnwys rhestr drawiadol o arbenigwyr, a phob un yn arwain yn eu meysydd.

Bydd gan bob un gyfraniad arbennig i’w wneud i waith IBERS, sydd â’r nod o wneud gwaith ymchwil o safon byd ym meysydd amaeth a’r amgylchedd er mwyn cynnig atebion ymarferol a fydd er lles ffermwyr, yr economi, cymunedau a phoblogaeth y byd.

Roedd aelod arall o’r Bwrdd yn dathlu ei gysylltiad arbennig â Phrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon. Roedd yr Athro Russell L Jones o Adran Bywydeg Microbial a Phlanhigion, Prifysgol California, Berkeley, wedi cyfarfod â’ i wraig yn Aber union 50 mlynedd yn ôl.

Aelodau’r Bwrdd Ymgynghorol Allanol
Syr Don Curry CBE, Cadeirydd cwmni yswiriant NFU Mutual
Dr Roger Freedman, Mediant Cambridge Ltd., Caergrawnt
Yr Athro Russell L Jones, Adran Bywydeg Microbial a Phlanhigion, Prifysgol California, Berkeley
Yr Athro J Steve Jones, Athro Geneteg, Esblygiad ac Amgylchedd, UCL
Mr John Lloyd Jones OBE, Cadeirydd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Dr Barbara Mazur, Is-Lywydd Trait Technologies yn Pioneer Hi-Bred Inc., Dupont Industries
Dr Jim Peacock FAAS FRS FAATSE COA, Cymrawd CSIRO