Lansio DVD newydd

DVD newydd Prifysgol Aberystwyth

DVD newydd Prifysgol Aberystwyth

19 Ebrill 2010

Lansio DVD newydd i hybu astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Lansiwyd DVD sy’n hybu Prifysgol Aberystwyth, a bywyd fel myfyriwr yn Aberystwyth, gan Swyddfa Denu a Derbyn Prifysgol Aberystwyth.

Wedi ei anelu at ddarpar fyfyrwyr, rieni ag athrawon, mae’r DVD yn galluogi gwylwyr i weld beth sydd gan Aberystwyth i’w gynnig.  Yn ystod y ffilm, mae myfyrwyr presennol yn darparu sylwebaeth onest ar fywyd academaidd, y dref, adloniant a phob math o bethau eraill.

Dywedodd Russell Davies, Rheolwr Marchnata:  “Rydym wedi bod yn cynhyrchu fideos er mwyn hybu’r Brifysgol ers canol yr 80au pan yr ystyriwyd ni fel arweinwyr yn ein maes.  Gyda datblygiadau mewn technoleg, mae disgwyliad ymysg darpar fyfyrwyr y byddant yn gallu troi at eu gliniaduron gan weld yn sydyn, ac o gysurdeb eu cartref, beth sydd gan brifysgol i’w cynnig iddynt.  Rydym felly’n defnyddio’r DVD, a rhannau ohono, ar-lein fel modd o roi syniad da i bobl sut le yw Aberystwyth.”

“Cafwyd adborth cadarnhaol dros ben i’r DVD, gydag athrawon, rhieni a darpar fyrwyr i gyd yn darparu sylwadau ffafriol ag yn cyffroi at beth sydd gan Aberystwyth i’w gynnig.”

Gellir gwylio rhannau o’r DVD ar wefan y Brifysgol ag ar You Tube.

Bu ‘arbenigwyr Aber’ yn chwarae rhan wrth gynhyrchu’r DVD gyda Robert Light o Greenfield Media yn cynhyrchu’r DVD ag Ellen Salisubry yn adrodd yr hanes, y ddau yn raddedig o Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol.

Mae lansiad y DVD yn cyd-fynd ag argraffiad diweddaraf o brosbectws Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Russell Davies: “Tra bod deunyddiau electronig yn fwyfwy pwysig wrth ymateb i’r gofyn am dderbyn deunyddiau o fewn ennyd a hynny’n rhyngweithiol, mae prosbectws traddodiadol yn fformat ffafriol iawn.  Mae’n debyg bod gallu trin a thrafod dewisiadau prifysgol gydag aelodau’r teulu dros gopi caled o’r prosbectws yn parhau i fod yn boblogaidd.  Rydym felly’n cynhyrchu dros 76,000 o gopïau o’r prosbectws yn Saesneg a 3,000 yn y Gymraeg.  Rydym yn hynod falch o’r ffaith mai ni yw’r unig Brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol i greu prosbectws llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae modd archebu copïau am ddim o’r DVD a’r pospectws o wefan Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk