Gwyddonwyr IBERS yn arwain astudiaeth £4.9m pwysig newydd ar geirch

Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf

Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf

20 Ebrill 2010

Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain astudiaeth newydd o bwys i ddatblygu gwell amrywiadau o geirch a ddaw â buddion economaidd ac amgylcheddol sylweddol i dyfwyr, melinwyr, a’r diwydiannau llaeth, eidion a dofednod.

Disgwylir hefyd y bydd Quality Oats (QUOATS), prosiect pum mlynedd £4.9m a gyllidir gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Defra, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn cynyddu manteision iechyd wrth i fwy a mwy o bobol droi at geirch yn rhan o ddeiet iachach.

Mae’r galw cynyddol am fwyd neu borthiant diogel, iach a maethlon, ynghyd â’r cynnydd yng nghostau ynni amaethyddol a gwrtaith, a’r angen i ffermio mewn dull mwy cynaliadwy yn ffactorau sy’n ysgogi’r astudiaeth, yn ôl Dr Athole Marshall, pennaeth y Rhaglen Bridio Ceirch yn IBERS.

“Mae ceirch yn gnwd saib gwerthfawr o fewn cylchdro’r grawnfwyd gan leihau clefydau a phroblemau chwyn, mae arnynt angen llai o wrtaith na gwenith, maent yn perfformio’n well mewn mannau ymylol ac maent yn borthiant anifeiliaid uchel eu gwerth y gellir ei dyfu a’i fwydo ar y fferm”.

Ychwanegodd “Yn IBERS, rydym yn llwyddo i gyfuno ymchwil sylfaenol ar eneteg planhigion â thechnegau bridio planhigion i ddatblygu amrywiadau o blanhigion sy’n fasnachol hyfyw gan helpu i gwrdd â heriau diogelwch bwyd, dŵr ac ynni, a chynaladwyedd amgylcheddol”.

Mae’r amrywiadau o geirch a ddatblygir ar hyn o bryd yn IBERS yn cyfrif am fwy na 60% o farchnad hadau ceirch y DU, gyda gwerth ‘gât-fferm’ o £80m. Un amrywiad, Gerald, a ddatblygwyd gan y Sefydliad yw’r geirchen aeaf a dyfir fwyaf aml, sy’n dal 45% o’r farchnad, tra bod y corgeirch noeth a ddatblygwyd yn y Sefydliad yn cyfrif am tua 5% o holl gnwd ceirch y gaeaf.

Er y manteision a gynigir eisoes gan geirch, cred Dr Marshall fod angen datblygu amrywiadau newydd a fydd yn ymateb yn dda i’r newid yn yr amgylchedd a’r hinsawdd, yn defnyddio llai o wrtaith, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy deniadol i gynhyrchwyr a defnyddwyr.

Cefnogir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy’r rhaglen Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes (A4B) a gyllidir gan yr UE. Lluniwyd y rhaglen i sicrhau bod Cymru’n ymestyn ffrwyth economaidd ei sefydliadau academaidd i’r eithaf.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau: “Mae angen i ni wella a chyflymu’r broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd o gronfeydd ymchwil rhagorol Cymru yn ‘werth ychwanegol’ ar gyfer yr economi.”

“Mae gan brosiectau fel y rhain y potensial i greu buddion sylweddol i’r economi a’r amgylchedd, ac mae’n dda gweld diwydiant yn gweithio ochr yn ochr ag academia i ddatblygu gwythïen gyfoethog o brosiectau sydd â gwir botensial masnachol.”

Mae’r prosiect hwn yn dwyn at ei gilydd holl gadwyn cynhyrchu ceirch gan gynnwys bridwyr, marchnatwyr cnwd, byrddau ardoll a’r defnyddwyr diwydiannol terfynol. Datblygiad newydd fydd y defnydd o’r technolegau genomeg mwyaf diweddar i astudio nodweddion mewn system fodel yn seiliedig ar hen gyltifar diploid.

“Bydd cyfuno arbenigedd wrth fridio planhigion yn foleciwlaidd a chonfensiynol, a dadansoddi cyfansoddiad grawn â gwerthuso amrywiadau newydd ac arloesol trwy ymchwil a phartneriaid diwydiannol yn sicrhau y bydd amrywiadau newydd y ceirch yn ateb gofynion y gwahanol ddefnyddwyr terfynol” dywed Dr Marshall.

Mae datblygu ceirch sy’n diwallu anghenion y diwydiant melino yn bwysig. Bydd y tîm yn astudio sail enetig cynhwysiad β-glucan mewn ceirch, y gwyddys ei fod yn iselhau colesterol gwaed, gyda’r nod o ddatblygu amrywiadau newydd a fydd yn gweddu i’r dim i’r farchnad bwydydd iach.

Yn draddodiadol, mae ceirch yn borthiant pwysig i anifeiliaid ac mae’r amrywiadau modern yn addas iawn ar gyfer dognau. Bydd y tîm hefyd yn datblygu ceirch sy’n darparu bwyd ynni uchel i’r sectorau dofednod ac anifeiliaid cnoi cil, a gall hyn hefyd helpu i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr o gynyrchiadau anifeiliaid.

Yn ogystal â hyn, mewn datblygiad newydd ac arloesol, bydd y prosiect yn archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio ceirch i gynhyrchu cemegau llwyfan pwysig i’r diwydiant plastigau, colur a bwyd.